Cheerleader' yn canmol yr adran
Mae’r rhan fwya’ o fyfyrwyr adran y Gymraeg yn cael gwaith da o fewn dim i raddio, ond mi aeth Elinor Pritchard gam yn well.
Hyd yn oed cyn ennill ei gradd Dosbarth Cyntaf, roedd wedi cael swydd yn cyfieithu gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac mae’n bendant fod ei chwrs a phrofiad y Brifysgol yn allweddol yn hynny.
A hithau wedi bod yn aelod o dîm ‘cheerleaders’ y Brifysgol, mae’n barod iawn i ganu clodydd yr adran am ei chymhwyso at ei gwaith newydd.
“Dw i’n mwynhau’n fawr iawn,” meddai’r ferch o Ynys Môn. “Dw i’n cael llwyth o brofiadau ac mae pob diwrnod yn wahanol.”
Roedd ei chwrs, meddai, wedi ei pharatoi at amrywiaeth o’r fath gyda dewis eang o fodiwlau a nifer o wahanol ffyrdd o gyflwyno ac asesu gwaith – o draethodau i gyflwyniadau ac arholiadau llafar neu dasgau byrion.
“Roedd y darlithwyr yn frwdfrydig ac roedd yna wastad groeso i fynd i’w gweld nhw. Roeddan nhw’n edrych arnon ni fel unigolion,” meddai.
Ar ben hynny, mi gafodd waith un haf gyda’r Brifysgol – un o'r interniaethau mewnol sydd wedi eu creu i helpu myfyrwyr baratoi at fyd gwaith.
Rhan o hynny oedd hyrwyddo cwrs newydd sydd ar fin dechrau yn Ysgol y Gymraeg: cwrs Cymraeg Proffesiynol a fydd, meddai Elinor, yn ehangu profiadau myfyrwyr ymhellach fyth.
“Roedd yr interniaeth yn gam arall ymlaen,” meddai. “Mi ges i brofiad o waith swyddfa a chysylltu efo gwahanol adrannau o fewn y Brifysgol. Ar un adeg o’n i wedi meddwl mynd yn athrawes, ond mi wnaeth hynna newid fy meddwl i am waith mewn swyddfa.”
Roedd bywyd cymdeithasol wedi ychwanegu at ei mwynhad hefyd – yn ogystal â “llwyth o ddigwyddiadau” Cymraeg o dan adain undeb UMCB, roedd yna gyfleoedd i fentro ymhellach.
“O’n i’n rhan o dîm cheerleaders efo’r gymdeithas athletau; mi wnaethon ni berfformiadau yn y Brifysgol a chystadlu mewn llefydd fel Birmingham a Telford.
“O’n i wedi bod yn gwneud dipyn o ddawnsio o’r blaen ac mi wnes i benderfynu ymuno, a chael lot o hwyl.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2018