Chwarae’r Cornet dros Gymru
Mae myfyrwraig o Ysgol y Gymraeg Bangor wedi cael ei dewis i gynrychioli Cymru ym Mand Pres Ieuenctid Ewrop. Cafodd Ffion Haf Williams, sy’n y flwyddyn gyntaf yn astudio gradd yn y Gymraeg, ei dewis wedi iddi chwarae’r cornet mewn clyweliad i Fand Pres Ieuenctid Cymru.
Dim ond dau berson o bob gwlad sydd yn cael eu dewis i gynrychioli eu cenedl yn Ewrop ac felly mae Ffion sy’n wreiddiol o Sir Benfro yn cydnabod ei fod yn dipyn o gamp. Dywedodd,
“Mae’n fraint cael fy newis. Rwy’n eithaf prowd o’n hun. Cefais neges ar fy ffon ar ôl bod mas i Iwerddon. Doeddwn i heb edrych ar fy ffôn am ddyddie ac yna ar y ffordd nôl ar y llong mi oedd gen i neges yn dweud “Helo Ffion, ti wedi cael dy dderbyn…” felly ie oedd e’n deimlad eithaf neis.”
Bydd Ffion yn teithio i Rotterdam, yn yr Iseldiroedd diwedd mis Ebrill i chwarae’r cornet gyda’r band. Ychwanegodd,
“Rwyf wedi bod yn chwarae’r cornet ers oeddwn i tua 8 mlwydd oed a sai’n siŵr sut ddechreuodd hynny a dweud y gwir. Rwy’n credu fod hynny am fy mod yn blentyn eithaf fyr amynedd, roedd offeryn gyda thri botwm arno’n fwy na digon, lle'r oedd y piano yn ormod o ffws gen i. Felly fi’n credu mai o fanno ddoth y diddordeb ac wedyn ymuno â band a gwella fy safon ac ati.”
Daeth Ffion i Fangor wedi iddi gael ei swyno ar ddiwrnod agored. Cafodd Ysgol y Gymraeg a’r staff academaidd argraff dda arni ar y diwrnod ac mae’n parhau i fwynhau amrywiaeth y cwrs. Dywedodd,
“Rwy’n mwynhau’r ochr ysgrifennu creadigol ac rwy’n mwynhau’r ochr hen lenyddiaeth fel y mabinogi, Taliesin ac Aneurin hefyd. Mae yna ddigon o amrywiaeth yn perthyn i’r cwrs ac mae’n dda cael eich dysgu gan ddarlithwyr sydd i gyd wedi cael llwyddiant yn eu maes eu hunain.”
Gwyliwch fideo o Ffion Haf yn siarad am ei champ ar BangorTV
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2012