Chwe ffilm allweddol i wylio dros y Pasg
Caiff dwy ŵyl grefyddol, Pasg yr Iddewon a gŵyl Gristnogol y Pasg eu dathlu dros yr wythnos nesaf, felly dyma chwe ffilm allweddol (tair wedi’u hysbrydoli gan yr Hen Destament a thair gan y Testament Newydd) y mae Nathan Abrams, Athro Ffilm yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, yn eu hargymell fel ffilmiau i'w gwylio dros gyfnod y gwyliau.
1. The Ten Commandments (1956)
Mae stori Feiblaidd Ecsodus wedi bod yn boblogaidd gan wneuthurwyr ffilmiau ers oes y ffilmiau mud ac wedi cael ei dramateiddio sawl gwaith, ond y ffilm fawr i'w gwylio yw’r fersiwn epig hon o'r 1950au gan Cecil B. DeMille, gyda Charlton Heston fel Moses. Cafodd ei ffilmio mewn lliw llawn ar ffilm 70mm i sgrin lydan, a llwyddodd DeMille i ail-greu'r stori Feiblaidd mewn ffordd na welwyd erioed o'r blaen, a hynny fel arf yn y rhyfel oer yn erbyn yr Undeb Sofietaidd. Ffaith ddifyr: Defnyddiwyd Jell-O i greu’r effaith arbennig o agor y Môr Coch.
2. The Prince of Egypt (1998)
Cynhyrchwyd y ffilm antur animeiddiedig hon gan gwmni newydd Dreamworks Steven Spielberg ac mae’n ffilm wych i'w gwylio gyda'r plant. Mae'n glynu’n hynod o ffyddlon i’r hanes Iddewig gyda Val Kilmer yn cymryd rhan Moses (a llais Duw).
3. Exodus: Gods and Kings (2014)
Mae fersiwn Ridley Scott yn ddiweddariad o ffilm DeMille, ond nid yw hanner cystal. Wedi dweud hynny, fel atgynhyrchiad o’r stori Feiblaidd mae’n werth ei gweld. Ond yn bersonol, buaswn i’n dewis naill ai Spartacus, a gyfarwyddwyd gan Stanley Kubrick yn 1960, neu Exodus, Otto Preminger fel y ffilm orau ar thema Pasg yr Iddewon.
4. The Passion of the Christ (2004)
Yn bendant nid yw hon yn ffilm i'w gwylio gyda'r teulu, gan fod gweledigaeth Mel Gibson o ddyddiau olaf yr Iesu yn dreisgar ac yn waedlyd, ac mae’n briodol ei hystyried yn enghraifft o’r genre ffilmiau a elwir yn 'porn artaith'. Wrth ystyried cyd-destun ei rhyddhau yn 2004, mae wedi cael ei dehongli fel protest yn erbyn y gosb eithaf, a hefyd fel ffilm sy’n cymell cyhoedd yr Unol Daleithiau i gefnogi’r rhyfel yn Irac. Mae’n nodedig yn ogystal am ei defnydd o’r ieithoedd gwreiddiol.
5. The Last Temptation of Christ (1988)
Unwaith eto nid yw’r ffilm hon, a gyfarwyddwyd gan Martin Scorsese (Catholig arall, fel Mel Gibson), yn un i’w gwylio gyda’r teulu. Willem Dafoe sy’n chwarae prif ran yr Iesu a Harvey Keitel yw Jiwdas Iscariot. Mae gan David Bowie ran cameo fel Pontiws Peilat.
6. Jesus Christ Superstar (1973)
Addaswyd y ddrama gerdd hon o'r opera roc gan Andrew Lloyd Webber/Tim Rice. Ffilmiwyd hi yn yr Israel a lleoliadau eraill yn y Dwyrain Canol, ac mae’n bendant yn cyfleu mwy o obaith a llawenydd na'r ffilmiau eraill ar thema’r Pasg ac mae hefyd yn nodweddiadol iawn o’i chyfnod, yr 1970au.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2020