CITCOM: Dinasyddiaeth a Chymuned
Ar ôl y cyfarfod rhyngwladol cyntaf ym Mangor ym mis Tachwedd, mae'r partneriaid wedi bod yn cynnal gweithgareddau yn eu rhanbarthau eu hunain. Yma yng ngogledd Cymru, cynhaliwyd diwrnod o gyfarfodydd bord gron gyda chymunedau gwledig lle buwyd yn egluro ac yn trafod y problemau a wynebir ac yn chwilio am atebion tebygol. Bu myfyrwyr ôl-radd o'r rhaglen Datblygu Cymunedol yn hwyluso'r diwrnod ac yn paratoi'r adroddiad a fydd yn arwain at gamau gweithredu pellach. Cynhelir cyfres newydd o gyfarfodydd bord gron dros y misoedd nesaf, fydd yn targedu cymunedau gwledig eraill ynghyd â grwpiau diddordeb, gan hybu dealltwriaeth o broblemau gwledig, datblygu camau gweithredu a mwy o lais.
Cynhelir y cyfarfod rhyngwladol nesaf yn Perpignan, de Ffrainc ddechrau Ebrill. Caiff Cymru ei chynrychioli gan arweinydd y project Shan Ashton, Dysgu Gydol Oes, a chyfranwyr rhanbarthol Elspeth Morris a Laura Telleri Stafford.
Project dwy flynedd amlochrog yw CITCOM sy'n rhan o gynllun Grundtvig dan nawdd y Comisiwn Ewropeaidd. Mae'r partneriaid yn cynnwys Cymru, Ffrainc, yr Eidal, Lithwania, Romania a'r Weriniaeth Tsiec.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014