‘Climate change: hope from despair?’ – darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor gan wyddonydd amlwg
Newid hinsawdd fydd pwnc darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor nos Fercher, 20 Tachwedd. Y siaradwr yw Kevin Anderson, Athro Ynni a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Manceinion. Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau. Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau.
Dywedodd yr Athro Anderson: "Mae'r her sy'n deillio o Gytundeb Paris yn golygu bellach bod rhaid ail-lunio cymdeithas gyfoes mewn modd cyflym a sylweddol. Er bod y modelau sydd ar frig yr agenda yn defnyddio technolegau sy'n fwyfwy mentrus er mwyn bod ‘yn dderbyniol yn wleidyddol’, ymddengys bod ffigurau'r allyriadau'n ein harwain i'r casgliad anorfod mai mater o ddogni yw hwn yn y pen draw. Yng ngoleuni'r fath gefndir, byddaf yn ystyried a yw ymddangosiad grwpiau newydd a chroch ynghyd â phroffil uwch newid hinsawdd yn awgrymu bod gennym reswm dros obaith newydd."
Mae gan Kevin Anderson Gadair ar y cyd rhwng Prifysgolion Manceinion ac Uppsala, Sweden. Arferai fod yn Gyfarwyddwr y Tyndall Centre for Climate Change Research. Mae wedi cynghori nifer o lywodraethau ar faterion amgylcheddol a chyfrannodd ei ddadansoddiad at fframio Deddf Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig.
Noddir y ddarlith ar y cyd gan Brifysgol Bangor a changen Menai Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â public.lectures@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2019