‘Clust i wrando’
Cynhadledd i’r byddar yng Ngogledd Cymru
Ar ddechrau mis Mehefin eleni, bydd Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd un-dydd ar gyfer unigolion a theuluoedd yng Ngogledd Cymru sy’n dioddef oherwydd anawsterau clyw. Ar ddydd Sadwrn, Mehefin 8fed rhwng 10.00 a.m. a 3.30 p.m. y cynhelir y digwyddiad a Neuadd Powis, Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor fydd y lleoliad ar gyfer yr achlysur.
Hon fydd y gynhadledd gyntaf o’i bath yng Nghymru. Nod a bwriad y digwyddiad yw dwyn unigolion a theuluoedd ynghyd i gymdeithasu, i drafod y maes, rhannu profiadau a chlywed pedwar siaradwr adnabyddus yn rhannu eu harbenigedd a’u dealltwriaeth o’r anabledd hwn. Neilltuwyd un sesiwn hefyd ar gyfer fforwm agored, lle bydd cyfle i unrhywun ofyn cwestiwn sy’n briodol i’r maes. Bydd nifer o gymdeithasau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ynghyd â grwpiau gwirfoddol sy’n flaenllaw yn y maes yn bresennol drwy gydol y dydd hefyd.
Yr Athro David Crystal (o Gaergybi ac arbenigwr ar Ieithyddiaeth) fydd y siaradwr gwadd yn ystod sesiwn y bore tra mai Gareth Foulkes (o Gymdeithas y Byddar ar Ynys Manaw) fydd yn olrhain hanes byddardod yng Nghymru. Yn ogystal, bydd y darlithydd ifanc Dr. Andrew Davies a’r athro arwyddo i’r byddar David Duller (o Landudno) yn esbonio rhai o’r heriau a’r cyfleoedd sydd i unigolion ym myd addysg heddiw.
‘Y mae hwn yn gyfle arbennig i’r Brifysgol ym Mangor i wasanaethu’r gymuned yng ngogledd Cymru a’r gobaith yw y bydd hyn yn gymorth mawr i unigolion a theuluoedd sy’n aml yn cael eu diystyrru’, meddai Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol. ‘Drwy annog pobl i ddod ynghyd a rhannu ein dealltwriaeth o’r maes, drwy gyfnewid syniadau yn ogystal â’n hofnau, mae’n dra thebygol y daw newid yn y gefnogaeth ar gyfer y byddar yn y parthau hyn.’
Y mae 194 o deuluoedd yng ngogledd Cymru yn unig yn dioddef oherwydd anhawsterau clyw difrifol ac yn ôl adroddiadau diweddar yn y wasg, ymddengys fod y cyfloedd i blant byddar a’u teuluoedd sy’n Gymry-Cymraeg yn gyfyng a phrin.
Trefnwyd y gynhadledd hon er mwyn ceisio ennyn trafodaeth ranbarthol fydd gobeithio, yn dylanwadu ar benderfyniadau’r Llywodraeth yng Nghymru ac a fydd yn sail i ymchwil pellach yn y maes. Ein gobaith hefyd yw y bydd gwasanaeth mwy cyflawn a theg i ni yma yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd a Môn.
Bydd seinwyr a phalanteipyddion yn bresennol drwy gydol y gynhadledd, a bwriedir ffilmio’r cyflwyniadau unigol er mwyn sicrhau cynulleidfa ehangach yn y dyfodol. Ni chodir tâl am fynychu’r digwyddiad hwn a darperir te/coffi a diodydd ysgafn drwy gydol y dydd. Dylai unrhywun sy’n dymuno mynychu’r gynhadledd gysylltu â Mrs. Iona Rhys Cooke ar (01248) 382255 neu drwy gyfrwng ebost - i.r.cooke@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2013