CodiSTEM (25/10/18)
Daeth dros 600 o ddisgyblion ysgol y gogledd i ddigwyddiad Codi STEM a gynhaliwyd yng Ngholeg Llandrillo (Grŵp Llandrillo Menai) ddydd Iau, 25ain Hydref 2018. Buont yn rhyngweithio â llu o fusnesau a sefydliadau sy'n dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg trwy amrywiol weithgareddau hwyliog a difyr.
Cyflwynodd ein Hysgol Gwyddorau Naturiol ni arbrawf hynod boblogaidd y gleiniau gel alginad a'r pryfaid genwair. Roedd yr arddangosfa'n drawiadol ac yn hwyliog, ac mi ddangosodd allu'r alginad anion sy'n tarddu o wymon i groes-gysylltu, ac y mae ei ymddygiad cemegol yn cael ei addasu ar hyn o bryd at lawer o ddefnyddiau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg (h.y. rheoli cyflenwad cyffuriau a geliau bwytadwy!).
Hoffai Dr Leigh Jones (darlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Naturiol) ddiolch i Ben Exton (myfyriwr israddedig yn 4edd flwyddyn ) a Kenny Chan (myfyriwr PhD yn ei 3edd flwyddyn) am eu cyfraniadau allweddol a'u brwdfrydedd diwyro trwy gydol y digwyddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2018