Coed i gyfrannu at ymchwil
Mae dwsinau o goed brodorol lled aeddfed, yn cynnwys Masarn, Planwydd Llundain, Bedw, Ceirios, Criafol a Cherddinen Wen ymysg y rhai a fydd yn cael eu plannu fel rhan o broject Pontio.
Mae adeilad Pontio, sydd wedi’i gyllido’n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol yr UE drwy Lywodraeth y Cynulliad, wedi ei gynllunio i ymdoddi i’w amgylchedd a chyd-fynd â thirwedd y parc o’i amgylch. Dyna pam mae cymaint o goed â phosibl, llawer ohonynt yn goed aeddfed, yn cael eu cadw o amgylch yr adeilad. Bydd hyn yn gwneud y ffiniau rhwng yr adeilad a’r parc yn fwy annelwig. Yn lle coed y mae’n rhaid eu torri, plennir rhywogaethau brodorol naill ai ar y safle neu o gwmpas campws y Brifysgol. Mae defnydd da’n cael ei wneud hefyd o’r coed sy’n gorfod cael eu torri.
Mae amryw o brojectau yn y gymuned ac yn y Brifysgol eisoes ar y gweill i ailddefnyddio’r coed na ellir eu cadw. Defnyddir boncyffion rhai coed i wneud dodrefn awyr agored ar gyfer y parcdir o amgylch adeilad Pontio, a bydd un project ymchwil gan ôl-raddedigion yn defnyddio’r coed i edrych ar sut y gellir defnyddio ‘biochar’ – golosg a ddefnyddir i gyfoethogi pridd – i leihau gollyngiadau nwyon tŷ gwydr mewn amaethyddiaeth a choedwigaeth yng Nghymru.
Meddai Andy Appleby, myfyriwr yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth: “Wrth gael rhai o’r coed o safle Pontio rydym yn gwybod o lle maent wedi dod a beth yw eu hanes, ac mae’n golygu hefyd y gellir gwneud defnydd buddiol o’r coed hynny gobeithio.”
Meddai’r Athro Tom De Luca, goruchwyliwr Andy: “Mae cael y deunydd o Pontio yn ffurf ar ailddefnyddio neu ailgylchu. Mae’n golygu fod Pontio eisoes yn hybu ymchwil arloesol er nad yw’r gwaith o godi’r adeilad wedi dechrau eto.”
“Mae Andy’n cynnal profion i weld a oes defnydd addas i biochar yng Ngogledd Cymru. Mae’r canlyniadau cyntaf o brofion maes yn ein ffarm arbrofol yn edrych yn addawol. Yn sicr nid oes unrhyw effaith negyddol o ddefnyddio biochar ac mae wedi ychwanegu ffurf sefydlog ar garbon at y priddoedd yma.”
“Gall ychwanegu biochar at y pridd wella cynhyrchiant y pridd drwy gadw maetholion cymhwysol ynddo, cadw carbon yn y pridd oherwydd ei gyfradd diraddiant araf, a hidlo dŵr yn y pridd oherwydd ei fandylledd a’i nodweddion amsugnol.”
Ychwanegodd Andy: “Mae yna bosibilrwydd y gellir cynnwys biochar wrth dirlunio Pontio hefyd, a thrwy hynny bydd y carbon yn dod yn ôl i’w fan gwreiddiol.”
Meddai’r Athro Fergus Lowe, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, sy’n arwain y project: “Bydd coed yn rhan allweddol o dirwedd Pontio. Byddant yn harddu’r amgylchedd a chadw cymeriad yr ardal yn ogystal â chael effaith bositif ar bobl sy’n byw a gweithio yn y ddinas.”
DIWEDD
8.12.10
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2010