Coedwigwyr Bangor yn San Steffan
Cafodd pump o goedwigwyr o Brifysgol Bangor y fraint o gael eu gwahodd i ymuno â myfyrwyr eraill, gweithwyr coedwigaeth, Aelodau Seneddol a chynrychiolwyr ac arbenigwyr o'r diwydiant coedwigaeth i nodi lansiad cenedlaethol Confor Cystadleuaeth #TheFutureIsForestry yn ddiweddar.
Confor yw'r corff sy'n cynrychioli'r diwydiant coedwigaeth a choed ledled y Deyrnas Unedig. Bu Confor yn ddigon caredig i drefnu cefnogaeth ariannol i'r myfyrwyr allu bod yn bresennol, a fydden nhw ddim wedi gallu dod fel arall, a hynny drwy eu cronfa, Education and Provident Fund.
Dywedodd Jemima Letts, myfyrwraig ar ei blwyddyn olaf mewn BSc Coedwigaeth:
“Roedd yn wych cael cyfle i gwrdd â myfyrwyr coedwigaeth eraill o bob cwr o'r Deyrnas Unedig. Roedd yn anhygoel cael gwneud hynny yn Senedd y Deyrnas Unedig ac rydw i'n edrych ymlaen at gymryd rhan yng nghystadleuaeth Confor, #TheFutureIsForestry!”
Dywedodd James Walmsley, darlithydd mewn Coedwigaeth yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol:
“Mae'n wych gweld coedwigaeth yn cael sylw a chydnabyddiaeth fel hyn yn y Senedd. Roeddwn i'n falch iawn o weld cyn-fyfyriwr MSc Coedwigaeth, David Pelly, yn ennill gwobr yn yr un gystadleuaeth y llynedd. Rwy'n gobeithio y gwnaiff ei lwyddiant yntau ysgogi llawer mwy o ymgeiswyr rhagorol o blith coedwigwyr Bangor eleni! Hoffwn ddiolch Confor, yn ogystal â'r noddwyr Coedwigaeth Tilhill, Grŵp BSW Timber a'r Comisiwn Coedwigaeth, am roi cefnogaeth ac anogaeth i'r myfyrwyr fel hyn.”
Rhagor o wybodaeth:
http://www.confor.org.uk/news/latest-news/future-of-forestry-writing-prize-is-back/
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019