Coffáu canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn
Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn coffáu canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn gydag arddangosfa yn dathlu bywyd, gwaith a threftadaeth y bardd a'r milwr o Gymro a fu farw ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele ar 31 Gorffennaf 1917.
Ymysg yr eitemau a gânt eu harddangos bydd drafft o'i awdl 'Yr Arwr' a fwriadai ei chyflwyno i gystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol a oedd i'w chynnal ym Mhenbedw yn 1917. Cyn y gallodd orffen y darn cafodd ei gonsgriptio i 15ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a hwyliodd am Ffrainc ym Mehefin 1917. Ddechrau Gorffennaf roedd yng nghyffiniau Ypres ac yno ym mwd y ffosydd y gorffennodd yr awdl. Gyda'r ffugenw 'Fleur de Lys', postiodd ei waith yn ôl i Gymru ar 15 Gorffennaf 1917. Ar 31 Gorffennaf aeth Hedd Wyn 'dros y top' gyda'i gatrawd mewn ymosodiad mawr i gipio 'Cefn Pilckem', yn yr hyn a fyddai'n cael ei galw wedyn yn Frwydr Passchendaele (neu Drydedd Brwydr Ypres). Roedd dynion yn syrthio ym mhobman ar faes y frwydr, yn eu plith Hedd Wyn a glwyfwyd yn angheuol.
Hefyd ceir llythyr, “Rhiwle yn Ffrainc,” a ysgrifennwyd rhyw bum wythnos cyn Eisteddfod Genedlaethol y Gadair Ddu ym Mhenbedw. Mae yna ddisgrifiadau gwych ynddo fo – mae yna'r disgrifiad enwog o hen shell a blodau yn tyfu ohoni - y cyferbyniad rhwng rhywbeth hardd a rhywbeth cas a brwnt. Ac yn sôn am y gwynt oer yn chwipio ar draws yr erwau yn Ffrainc - a dyna adlais o 'gwae fi fy myw' a “gwaedd y bechgyn lond y gwynt a'u gwaed yn gymysg da'r glaw”. Mae o bron iawn yn broffwydol yn sôn mai blodau prudd fyddai Ffrainc - y Pabi Coch wrth gwrs.
Gellir gweld yr arddangosfa o 5 Mehefin tan 15 Rhagfyr yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.
Byddwn hefyd yn hyrwyddo'r arddangosfa ym mhabell Prifysgol Bangor ddydd Gwener 11 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2017