Cofiwch ddweud Su'mae?
Mae’r Brifysgol yn annog staff a myfyrwyr i groesawu ei gilydd yn Gymraeg ar dydd Mawrth Hydref 15: Diwrnod Shwmae Su’mae!
Nod y diwrnod yw dangos fod y Gymraeg yn perthyn i bawb ac y gallwn ni i gyd ddefnyddio’r Gymraeg sydd gennym drwy’r flwyddyn – yn y siop, yn y ganolfan hamdden, yn y gwaith, wrth geisio gwasanaeth Cymraeg yn ein cymuned, gyda ffrindiau – ymhob man. Dyma gyfle i wneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a chyhoeddus – a lle gwell i ddechrau na gyda’r ffordd ry’n ni’n cyfarch ein gilydd!
Bydd Diwrnod Shwmae Su’mae! yn gyfle euraidd i atgyfnerthu’r gefnogaeth eang sydd yng Nghymru i'r Gymraeg a dathlu’r amrywiaeth o ffyrdd y byddwn ni’n cyfarch ein gilydd yn Gymraeg yn ein cymunedau. Bydd hefyd yn gyfle i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd wrthi yn dysgu Cymraeg ledled Cymru heddiw.
O dan y faner PrifBlaned ‘Dod a Cynaliadwyedd yn Fyw’ bydd y Brifysgol yn hyrwyddo’r diwrnod ar draws y campws er mwyn cael pawb i gyfarch ei gilydd yn Gymraeg a ‘dod a’r Gymraeg yn fyw’.
Bydd 10% o ddisgownt yn cael ei gynnig ar baned o de neu goffi yn holl fannau arlwyo'r Brifysgol os byddwch yn defnyddio’r Gymraeg. Gyda help y clipiau sain yma ar y dudalen Cymorth Cymraeg, beth am i chi annog pawb i ddweud Shwmae neu Su'mae?
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2013