Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd yn anrhydeddu tri ymchwilydd o Brifysgol Bangor
Mewn seremoni arbennig i gyflwyno Anrhydeddau’r RCSLT (Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd) yn Nottingham yn ystod eu cynhadledd flynyddol fis Medi, dyfarnwyd gwobr “Giving Voice” i Delyth Prys, Dewi Bryn Jones a Stefan Ghazzali o Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr. Roedd y tri, drwy eu project Lleisiwr, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi datblygu meddalwedd i greu llais synthetig personol yn y Gymraeg a fyddai’n gymorth i gleifion oedd ar fin colli eu llais eu hun. Roedd y project yn caniatáu bancio llais y claf yn Gymraeg a Saesneg a’i ddefnyddio i adeiladu fersiwn digidol ohono.
Dywedodd y beirniaid y byddai hyn yn trawsffurfio bywydau pobl gyda chlefyd niwronau echddygol neu ganser y pen a’r gwddf. Roeddynt yn canmol hefyd y ffordd yr oedd y tîm wedi llwyddo i gael cyhoeddusrwydd cenedlaethol i’r project, ac wedi dod ag anghenion pobl gydag anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu i sylw’r cyhoedd ehangach.
Enwebwyd y tri gan Rhian Wyn, Therapydd Iaith a Lleferydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a fu’n gweithio gyda nhw ar y project Lleisiwr. Eglurodd Rhian: “Er bod gwasanaethau bancio llais ar gael ers dipyn i bobl drwy gyfrwng y Saesneg, ‘dan ni fel therapyddion iaith yn gwybod bod angen un trwy’r Gymraeg hefyd a bod eisiau’r ddwy iaith ar y cleifion yma sy’n siarad Cymraeg”. Dywedodd hefyd fod y gwaith wedi cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen S4C o’r enw “Achub Llais John” yn dilyn claf oedd wedi cael larynjectomi ac ei weld yn datblygu ei lais personol ei hun, ac ychwanegedd: “Mae wedi bod yn fraint cael gweithio hefo’r tîm ac enwebu nhw am y wobr yma”. Gellir gweld copi o’r fideo byr ddarlledwyd ar waith y tri yn y noson wobrwyo ar youtu.be/DSHtutQ1afs.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2019