Coleg Cymraeg yn denu academydd o Rydychen
Academydd o Brifysgol Rhydychen yw’r diweddaraf i gael ei phenodi i swydd wedi ei chyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hynny yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor.
Academydd o Brifysgol Rhydychen yw’r diweddaraf i gael ei phenodi i swydd wedi ei chyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hynny yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor.
Brodor o Gaerdydd a chyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Glantaf yw’r Dr Manon Mathias. Wedi graddio mewn Ffrangeg o Brifysgol Rhydychen, enillodd radd MA a doethuriaeth yn y maes gan arbenigo ar lenyddiaeth menywod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu’n diwtor ac yn ddarlithydd yn yr Adran Ieithoedd Modern yng Ngholeg Worcester, Prifysgol Rhydychen, yn ogystal â bod yn diwtor iaith Gymraeg yn yr Adran Astudiaethau Celtaidd yno.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd Ieithoedd Modern fel maes astudio ar lefel prifysgol ac, yn ogystal â’r swydd hon ym Mangor, y mae dwy swydd ddarlithio mewn Ieithoedd Modern wedi cael eu dyfarnu i Brifysgol Abertawe. Bydd y swyddi hynny yn cael eu hysbysebu'r wythnos hon.
Bydd Manon yn cychwyn ar ei gwaith ym Mangor ym mis Medi eleni ac yn cyfrannu i’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar lefel gradd ac uwchradd yn yr ysgol, yn ogystal â chyflwyno ei harbenigedd llenyddol ymhlith myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn. Rhan ganolog arall o’i gwaith fydd cydweithio gyda darlithwyr o Abertawe ar ddarpariaeth a fydd ar gael i fyfyrwyr ar draws sawl prifysgol.
“Mae hyn yn ddatblygiad hynod o gyffrous i ni fel adran”, dywedodd Yr Athro Carol Tully, Pennaeth yr Ysgol, “ac yn gyfle arbennig i ni ymestyn diddordebau ymchwil ac ysgolheictod y sefydliad hwn. Bydd croesawu Manon i’n plith yn siŵr o’n hysbrydoli ni i gyd!”
Darperir cyrsiau mewn Eidaleg, Almaeneg, Sbaeneg, Tsieinëeg a Ffrangeg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ar hyn o bryd ond mae’r gobaith o gynnwys Catalaneg ac ambell i iaith leiafrifol arall ar y gorwel hefyd.
Nododd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae’r Coleg wedi cyllido 27 o swyddi, ac er mai penodiadau ym Mangor yw’r tair swydd gyntaf i’w cyhoeddi fe fydd penodiadau pellach yn digwydd o fewn yr wythnosau nesaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Morgannwg ac Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd. Yn y cyfamser, mae’n braf nodi fod academydd sydd wedi astudio yn Lloegr yn medru dychwelyd i weithio yng Nghymru yn sgil cynllun staffio’r Coleg.”
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2011