Colociwm Celto-Slavica yn dod i Fangor
Heddiw (Iau), a than ddiwedd y penwythnos, bydd Prifysgol Bangor y croesawu academwyr amlwg o hyd a lled Ewrop, a 7ed Colociwm Societas Celto-Slavica yn ymweld â Bangor, 4-7 Medi.
Gweler y rhaglen lawn yma
Sefydlwyd Societas Celto-Slavica rai blynyddoedd yn ôl er mwyn hyrwyddo cydweithrediad rhwng ysgolheigion o Iwerddon / gwledydd Prydain sy’n ymddiddori yn yr ieithoedd Celtaidd ac ysgolheigion o gyffelyb fryd o’r gwledydd Slafaidd. Dyma’r tro cyntaf i’r gymdeithas hon gynnal ei cholociwm yng Nghymru ac fe wnaed hynny drwy wahoddiad Ysgol y Gymraeg (Prifysgol Bangor) a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth.
Bydd nifer o’r cyfranwyr yn lleisiau cyfarwydd oddi ar y cyfryngau Cymraeg – nid yn unig y ffigurau amlwg o Ysgol y Gymraeg ei hun, Peredur Lynch ac Angharad Price, ond hefyd Elena Parina, sy’n gweithio ym Moscow a Marburg ac yn cyfrannu’n aml i raglenni materion cyfoes Cymraeg.
Caiff papurau eu traddodi ar ystod eang iawn o bynciau, o’r dystiolaeth gynharaf am yr ieithoedd Celtaidd a hanes eu datblygiad hyd y dwthwn hwn, i gymariaethau o sefydliadau cymdeithasol y gwledydd Celtaidd a’r India gynnar. Clywir am brosiect cyfredol i gyfieithu’r Mabinogi i Hen Rwsieg, yn ogystal â thrafodaethau ar agweddau hollol gyfoes o’r ieithoedd a’r llenyddiaethau Celtaidd: sonnir am agwedd Emrys ap Iwan at Imperialaeth Brydeinig, ac am y ffordd y bu i brofiadau T.H. Parry-Williams yn y Rhyfel Byd Cyntaf effeithio ar ddatblygiad llên Cymru yng ngweddill y ganrif.
Traddodir y papurau yn Gymraeg (gyda chyfieithu ar y pryd) ac yn Saesneg.
Ymholiadau: aled.llion@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2014