Côr yn helpu’r Brifysgol i ddathlu canmlwyddiant
Bydd un o Gorau Meibion hynaf y wlad, Côr y Penrhyn, yn ymuno â staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor i ddathlu canmlwyddiant agor Prif Adeilad y Brifysgol. Bydd yn ganrif i’r diwrnod ers i Frenin Siôr V agor yr adeilad newydd trawiadol sy’n eistedd ar ael y bryn uwchben dinas Bangor. Bore dydd Iau, 14 Gorffennaf, bydd Côr y Penrhyn yn rhoi perfformiad arbennig yn ystod seremoni graddio, lle bydd dros 200 o fyfyrwyr yn graddio.
Meddai Cofrestrydd Prifysgol Bangor, Dr David Roberts:
“Mae’r cyswllt rhwng chwarelwyr gogledd orllewin Cymru a sefydlu prifysgol ym Mangor yn un o’r nodweddion mawreddog ac ysbrydoledig yn hanes y Brifysgol. Cyfrannodd chwarelwyr Bethesda a nifer o weithwyr eraill o ogledd Cymru, yn aml o’u cyflog prin, er mwyn cefnogi ymgyrch i gael addysg uwch yng ngogledd Cymru, ac mae’n briodol felly bod Côr y Penrhyn am ein helpu i ddathlu’r canmlwyddiant penodol yma.”
Bydd Côr y Penrhyn yn perfformio tri darn yn ystod y Seremoni:
- Y Bryniau Melynion gan Gareth Glyn (geiriau gan Ieuan Wyn)
- Benedictus gan Robat Arwyn
- Gwahoddiad, trefniant gan John Tudor Davies
Arweinydd Côr y Penrhyn yw Owain Arwel Davies, sy’n hanu o Ddyffryn Ogwen, ac a raddiodd o Brifysgol Bangor, sydd bellach yn bennaeth cerddoriaeth yn Ysgol Tryfan, Bangor. Y gyfeilyddes fydd Olwen John, brodor o Ynys Môn, a chyn fyfyrwraig Coleg Cerdd a Drama, Caerdydd.
Hen adeilad gwesty’r Penrhyn Arms oedd cartref cyntaf y Brifysgol. Ond lansiwyd ymgyrch i godi arian ar gyfer adeilad newydd parhaol a phwrpasol i’r Brifysgol.
Darparwyd £20,000 gan y llywodraeth, ond daeth gweddill yr arian o roddion pobl gyffredin: yn fyfyrwyr, yn blant ysgol, yn ddinasyddion Bangor- a chyfrannwyd cyfanswm o £6,000 gan bobl mor bell i ffwrdd ag Elusendai Llanuwchllyn.
Cyfrannwyd dwy rodd sylweddol, y naill gan Gwmni’r Brethynwyr, sydd yn parhau eu perthynas â’r Brifysgol hyd heddiw, ac a gyfrannodd £15,000 at y Llyfrgell a’r llall gan John Prichard Jones, brodor o Niwbwrch, dyn o deulu tlawd, ond a fu’n fasnachwr llwyddiannus yn Llundain ac a gyfrannodd £17,000 at y Neuadd sy’n dwyn ei enw.
Cynhaliwyd cystadleuaeth genedlaethol i ddewis dylunydd y Prif Adeilad, a chystadlodd 82 o benseiri. Rhoddwyd pump ar y rhestr fer a Henry Hare fu’n fuddugol.
Roedd eisoes yn adnabyddus, bu’n Llywydd Cymdeithas y Penseiri ym 1902 a daeth yn Llywydd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain ( RIBA) rhwng 1917-19.
Er ei amlygrwydd, bu’n rhaid iddo addasu ei gynlluniau gwreiddiol cyn iddynt gael eu derbyn, a ni wireddwyd ei gynlluniau yn llwyr- er i’r estyniad i’r adeilad a godwyd yn y 1960au ar gyfer y llyfrgell greu’r cwad yn unol â’i gynlluniau gwreiddiol.
Mae’r adeilad yn Adeilad Rhestredig Gradd 1 ac yn un o’r esiamplau gorau o bensaernïaeth gyhoeddus mewn arddull Neo Gothig o’r cyfnod Edwardaidd.
Bydd Arddangosfa am hanes yr adeilad i’w gweld yng Nghoridor yr Is-Ganghellor tan ddiwedd y flwyddyn. Cewch gyfarwyddiadau wrth y Brif Dderbynfa.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2011