‘Coron Driphlyg’ amgylcheddol i Brifysgol Bangor
Prifysgol Bangor yw’r Brifysgol fwyaf ‘gwyrdd’ yng Nghymru, yn ôl ’People and Planet’, sef y rhwydwaith myfyrwyr mwyaf ym Mhrydain sy’n ymgyrchu i ddod a thlodi byd-eang i ben, i gefnogi hawliau dynol ac amddiffyn yr amgylchedd. Yng Nghynghrair 2012, a gyhoeddwyd ym Mhapur newydd y Guardian, roedd Prifysgol Bangor ar y brig o blith prifysgolion Cymru, a hefyd wedi codi yn y Gynghrair o safle 28 i safle 19 o fewn y DU. Ar yr un pryd â’r cyhoeddiad, deallodd y Brifysgol ei bod wedi ennill Lefel 5 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, am ei hymroddiad i gyflawni gwellhad amgylcheddol parhaus.
Meddai Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G. Hughes, “Rwyf wrth fy modd ynglŷn â’r cynnydd rydym yn ei wneud yma ym Mangor wrth reoli ein heffaith ar yr amgylchedd. Dim ond ychydig wythnosau sydd ers i Undeb y Myfyrwyr gael ei enwi’n Undeb y Flwyddyn yng Ngwobrau Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) am Effeithiau Gwyrdd . Mae’r tri chyrhaeddiad gyda’i gilydd yn dangos yn glir ein bod o ddifrif ynghylch ein cyfrifoldebau amgylcheddol.”
Ychwanegodd Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol y Brifysgol, “Mae’r rhain yn gyraeddiadau nodedig. Mae Undeb y Myfyrwyr wedi gwneud cynnydd aruthrol ers ychydig blynyddoedd, ac mae llwyddo i aros ar y brig ymysg prifysgolion yn y Gynghrair Werdd am dair blynedd yn olynol yn dyst i’r gwaith tîm ac i ymroddiad staff a myfyrwyr wrth ofalu am ein hamgylchedd lleol. Erbyn hyn, mae ein System Amgylcheddol wedi cyrraedd y Safon uchaf posibl o fewn Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd sydd, ymysg pethau eraill, wedi gofyn am hyfforddi dwys ar gyfer grŵp o staff a myfyrwyr ymroddedig wrth gynnal archwiliad mewnol o’n heffeithiau amgylcheddol.”
Am ragor o wybodaeth am berfformiad amgylcheddol y Brifysgol ewch i we - http://www.bangor.ac.uk/sustainability/index.php.cy?
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2012