‘Coroni’r Wythnos’
Daeth llwyddiant ysgubol i ran yr opera Wythnos yng Nghymru Fydd (Gareth Glyn a Mererid Hopwood) a chynhyrchiad arbennig OPRA Cymru ohoni yn seremoni Gwobrau Theatr Cymru (2018) a gynhaliwyd yng Nghasnewydd yn ddiweddar ( 27.1.18). Yn dilyn taith lwyddiannus led led y wlad ym mis Tachwedd y llynedd a chydnabyddiaeth ragorol drwy gyfrwng theatrau llawn ac adolygiadau clodwiw yn y wasg, dyfarnwyd gwobr ‘Y Cynhyrchiad Gorau yn yr iaith Gymraeg’ (2018) i’r cwmni fu mor ddyfal a chydwybodol yn sicrhau fod y fenter arloesol hon yn cyrraedd cynulleidfaoedd y genedl.
Ymgais i ennyn cydweithio rhwng pedwar sefydliad cerddorol yng Ngogledd Cymru fu’n sail ac yn gychwyn i’r cynllun opera hwn. Ei nod oedd dwyn arbenigedd Ysgol Cerddoriaeth (Prifysgol Bangor), OPRA Cymru, Ensemble Cymru a Chanolfan Gelfyddydol Pontio (Prifysgol Bangor) ynghyd er mwyn llwyfanu cynhyrchiad eiconig a fyddai wedi ei wreiddio yng Ngwynedd ond a fyddai yn denu sylw ac apêl cenedlaethol. Gyda chymorth hael Cyngor Celfyddydau Cymru, comisiynwyd y cyfansoddwr Gareth Glyn, sy’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, i lunio’r gerddoriaeth a’r Prifardd Mererid Hopwood i ddarparu’r libreto sy’n seiliedig ar nofel wyddonias Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd (Llandysul: Gwasg Gomer).
Fel cyn-fyfyriwr o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor amserwyd y daith hon i ddathlu trigain mlynedd ers cyhoeddi gwaith Islwyn Ffowc Elis ac i ddwyn neges hynod amserol y nofel hon unwaith yn rhagor i sylw ei gyd-genedl. Cyfrannodd yr opera yn ddi-os, i’r adfywiad ym myd y cyfrwng sydd ar droed yng Nghymru heddiw a’r gobaith yw y bydd cyfleoedd eto i’r to ifanc o berfformwyr (yn gantorion ac offerynwyr) fu’n rhan o’r fenter i ennill eu plwyf ar lwyfannau proffesiynol ein gwlad.
OPRA Cymru yw’r unig gwmni opera Cymraeg ei iaith yn y byd ac wedi llwyddiant y gorffennol a pherfformiadau o weithiau llwyfan Bizet, Rossini, Verdi a Donizetti bu’r perfformiadau o’r Wythnos, ynghyd â gwaith cyfansoddwr o Gymru yn 2017 yn goron ar y cyfan. Patrick Young (cyn-Gyfarwyddwr, Cwmni Opera Cenedlaethol Lloegr), dysgwr Cymraeg afieithus, sydd bellach yn byw yn Llan Ffestiniog, oedd sylfaenydd OPRA Cymru a hynny yn 2008. Ef yw’r un fu’n cyfarwyddo’r gwaith a sicrhau bod yr holl elfennau – y rhai cerddorol, y llenyddol, y llwyfanu a’r effeithiau theatrig – yn plethu’n un cyfanwaith effeithiol.
Y gerddorfa a fu’n cyfeilio i’r perfformiadau operatig oedd Ensemble Cymru sef ensemble sy’n arbenigo ar berfformio a hyrwyddo cerddoriaeth siambr Gymreig yng Nghymru a’r tu hwnt.
Dywed Patrick Young: ‘Roedd llwyfanu Wythnos yng Nghymru Fydd yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes OPRA Cymru, a thestun llawenydd i ni fel cwmni oedd cyflawni’r fath orchest a roes fod i Wobr Theatr Cymru eleni. Rwy’n rhagweld bod tri datblygiad cyffrous ar y gorwel: twf yn nifer y cynulleidfaoedd fydd yn mynychu perfformiadau operatig yng Nghymru; twf yn nifer yr operau gaiff eu cyfansoddi; ac, yn sail i hyn oll, y ddealltwriaeth gynyddol fod opera a’r iaith Gymraeg yn priodi’n gwbl naturiol ac yn eneidiau hoff gytun.’
Dywed y cyfansoddwr Gareth Glyn: ‘Bu’n uchelgais gen i erioed i gyfansoddi opera Gymraeg, felly gwireddwyd breuddwyd pan ddaeth y cyfle i gydweithio gyda chynifer o sefydliadau ac unigolion ymroddedig a thalentog. Mae’r llwyddiant hwn yn goron ar y cyfan, ac yn arwydd calonogol a chadarnhaol tu hwnt at y dyfodol.’
Dywed y libretydd Mererid Hopwood: ‘Diolch am y cyfle i ail-ymweld â’r nofel a cheisio cyflwyno ei neges obeithiol o’r newydd. 60 mlynedd wedi ei gyhoeddi gyntaf, mae gwaith Islwyn Ffowc Elis yn parhau’n gwbl berthnasol i ni, ac nid yr iaith Gymraeg yw’r unig beth sydd yn y fantol.’
Dywed Peryn Clement-Evans (Ensemble Cymru): ‘Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth i ymrwymiad digyfaddawd cerddorion Ensemble Cymru ac OPRA Cymru i berfformiadau o ansawdd. Rydym yn edrych ymlaen i barhau’r berthynas gydag OPRA Cymru er mwyn creu mwy o brofiadau ysbrydoledig i gynulleidfoedd yng Nghymru yn ogystal â chreu gwaith o safon i berfformwyr Cymreig’
Ffrwyth cydweithio parod fu’r opera hon a’r gobaith yw y bydd Wythnos yng Nghymru Fydd i’w gweld a’i chlywed eto ar un o brif lwyfannau Cymru ac y bydd neges ysgytwol yr opera, ynghyd â’i hartistiaid addawol, yn denu sylw’r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018