Creadigrwydd hynod – cyhoeddi chwe llyfr mewn tri mis!
Rhwng mis Medi a mis Tachwedd eleni mae staff a myfyrwyr Ysgol y Gymraeg wedi cyhoeddi cyfanswm o chwe chyfrol o ysgrifennu creadigol - yn nofelau, storïau byrion a chyfrolau o farddoniaeth – gan ychwanegu at enw da’r Ysgol ym maes ysgrifennu creadigol.
Ddiwedd mis Medi lansiwyd casgliad Sian Northey, Celwydd Oll, sy’n gyfrol o storïau byrion am fywydau unigolion y gorffennol. Enillodd Sian radd doethur mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor yn 2018 a lluniwyd nifer o'r storïau sydd yn y gyfrol ar gyfer ei doethuriaeth.
Siani Flewog yw teitl ail nofel Ruth Richards, sy'n fyfyrwraig PhD yn Ysgol y Gymraeg. Mae’r nofel yn adrodd hanes pumed Marcwis Môn - y cymeriad lliwgar hwnnw a wariodd ei ffortiwn ar gynyrchiadau theatrig yn ei gartref ym Mhlas Newydd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Cyfrol gyntaf Gareth Evans-Jones yw Eira Llwyd. Yn adrodd hanes criw o Iddewon yn ystod erchyllterau’r Holocost, mae’r nofel fer eisoes wedi derbyn clod gan feirniaid llên am gynildeb yr ysgrifennu a hynny pan ddaeth yn agos at y brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017. Yn gyn-fyfyriwr BA, MA a PhD yn Ysgol y Gymraeg, mae Gareth bellach yn Ddarlithydd mewn Crefydd a Diwinyddiaeth yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ond yn parhau i gadw cysylltiad agos â'i hen adran.
Mae Mared Lewis, sydd wrthi'n cwblhau MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg, yn awdur adnabyddus ac uchel ei pharch. Ym mis Tachwedd, cyhoeddwyd ei hail nofel i ddysgwyr fel rhan o gyfres ‘Amdani’ Gwasg Gomer, Llwybrau Cul, sy’n adrodd stori llawn dirgelwch a chyfrinachau yng nghefn gwlad Cymru.
Cardiau Post yw cyfrol ddiweddaraf yr Athro Gerwyn Wiliams - ei bumed cyfrol o gerddi - a lansiwyd yn Galeri ddiwedd mis Hydref gerbron cynulleidfa niferus a gwerthfawrogol, a phythefnos yn ddiweddarach lansiwyd Ynys Fadog gan yr Athro Jerry Hunter. Dyma epig o nofel sy'n olrhain twf a dirywiad cymuned Gymraeg yn Ohio o flynyddoedd cynnar y 19eg Ganrif hyd at ddyddiau llwm Dirwasgiad y 1930au, ac a alwyd 'o bosib y nofel hiraf yn yr iaith Gymraeg!'.
Dywedodd yr Athro Angharad Price, Pennaeth Ysgol y Gymraeg sydd hefyd yn gyfrifol am nifer o fodiwlau ysgrifennu creadigol yn Ysgol y Gymraeg: 'Mae'r bwrlwm creadigol yn yr Ysgol ar hyn o bryd yn rhyfeddol - rhan yn unig o hynny ydi'r chwe chyfrol ddiweddaraf yma. Hyfryd ydi medru dathlu a thrafod llenyddiaeth Gymraeg trwy ein darlithoedd a'n seminarau academaidd, ac yna ychwanegu at y cyfoeth hwnnw trwy ein holl weithgarwch creadigol. Mae 'na berthynas ffrwythlon iawn rhwng y ddau beth, sy’n atgyfnerthu’r enw da sydd gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor ym maes ysgrifennu creadigol.’
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2018