Cregyn y Frenhines (Queenie) yn ennill Gwobr gyda chymorth Prifysgol Bangor
Roedd cefnogaeth a chyngor Ysgol Gwyddorau Eigion enwog Prifysgol Bangor yn allweddol i bysgodfa Ynys Manaw ennill Gwobr nodedig Pysgodfa Gynaliadwy Billingsgate. A ben hynny, mae’r rhagolygon yn edrych yn ffafriol ar gyfer diwydiant pysgota’r ynys. Ar ôl dirywiad, mae’r bysgodfa gynaliadwy am ‘queenies’, fel y gelwir y cregyn fylchog yn lleol, bellach yn cynhyrchu bwyd o safon uchel y mae galw amdano ym mwytai goreuon Prydain.
Enillodd Llywodraeth Ynys Manaw’r Wobr am Fwyd Môr Cynaliadwy yn 2011, gan guro pum bysgodfa ryngwladol arall, yn y Billingsgate Seafood School yn Llundain.
Mae’r Athro Mike Kaiser o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi bod yn cynorthwyo Adran Amgylchedd, Bwyd ac Amaethyddiaeth Llywodraeth Ynys Manaw er 2006. Maent wedi gweithio llaw yn llaw â’r diwydiant pysgota – gan osgoi’r cylchoedd ffyniant a ddirwasgiad a fu.
Esboniodd yr Athro Kaiser, “Bwriad ein gwyddoniaeth oedd ateb cwestiynau allweddol am gynaladwyedd y bysgodfa. Roedd hyn yn gofyn am ymdrech ddwys i gasglu data am stociau cregyn bylchog, cynefinoedd gwely’r môr a phethau eraill oedd yn cael eu dal o ganlyniad i ddefnyddio’r offer pysgota. Fodd bynnag, fyddai ddim o hyn wedi bod o werth heb gydweithrediad y pysgotwyr.”
Mae’n ychwanegu, “Mae dyfodol pysgota ‘queenies’ yn addawol iawn. Mae’r pysgotwyr eu hunain o blaid yr hyn sy’n digwydd, ac maent hefyd yn gobeithio cyrraedd cydnabyddiaeth werthfawr o ran dynodi tarddiad am eu cynnyrch erbyn diwedd y flwyddyn, a fydd yn ychwanegu mwy at werth eu cynnyrch.”
Mae Llywodraeth Ynys Manaw wedi cydweithio â’r pysgotwyr ers deng mlynedd, gan gyflwyno mesurau cadwraeth yn raddol er mwyn cydbwyso anghenion masnachol ac amgylcheddol. Mae’r Brifysgol wedi rhoi cymorth ers pedair blynedd, dryw ymchwil gefndirol, tystiolaeth a chyngor ac mae ganddynt aelod parhaol o staff (Dr Lee Murray) wedi’i leoli ar yr Ynys.
Dangosodd ymchwil gan y Brifysgol fod dull newydd o bysgota yn cael llawer llai o effaith ar gynefinoedd gwely’r môr o gymharu â physgodfeydd cragen fylchog eraill. Dangoswyd hefyd nad oedd niferoedd arwyddocaol o rywogaethau eraill yn cael eu dal ar yr un pryd.
Oherwydd eu bod yn pysgota o fewn ffiniau 12 milltir dyfroedd Ynys Manaw, mae eu hôl troed carbon yn isel iawn o gymharu â physgodfeydd cregyn bylchog eraill o amgylch y byd.
Dim ond y cregyn mwyaf sy’n cael eu cadw ar y cwch pysgota, wrth i’r rhai llai gael eu rhoi nôl yn y môr.
Mae monitro lloeren o weithgareddau’r cychod hefyd wedi rhoi gwybodaeth werthfawr i wyddonwyr môr am ymdrech gymharol, proffidioldeb, effaith ar wely’r môr, ymddygiad y pysgotwyr a llawer mwy.
Unwaith eto, mae’r Athro Mike Kaiser yn esbonio, “Mae darparu polisïau ymarferol ar gyfer pysgodfeydd cynaliadwy yn dibynnu ar lawer mwy na thystiolaeth am y bywyd môr – mae’n rhaid i ni hefyd ystyried ymddygiad dynol. Rydym yn elfen yr un mor bwysig yn yr hafaliad.”
O ganlyniad, mae’r Bysgodfa wedi ennill trwydded dros dro gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol. Mae hyn yn gydnabyddiaeth arall sy’n ychwanegu gwerth a galw am y cynnyrch gwerthfawr.
Gwyliwch y newyddion yn cel ei hadrodd ar y newyddion lleol yma
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011