Criw Drama Teledu yn ymweld â Phrifysgol Bangor
Roedd Prif Adeilad Neo-gothig Prifysgol Bangor yn lleoliad perffaith i greu’r awyrgylch ar gyfer ffilmio lleoliad allanol cyfres deledu newydd i’w darlledu ar sianel Living yn gynnar yn 2011.
Bydd y cannwr a’r actor Will Young yn ymddangos ymysg cast ‘Bedlam’, sy’n cael ei ddisgrifio gan y cwmni cynhyrchu fel “cyfres ddrama iasoer mewn chwe rhan”, ac roedd ym Mangor ar gyfer y ffilmio.
Digwyddodd y ffilmio mewn ambell leoliad allanol i’r Brifysgol dros ddeuddydd. Bydd y lluniau allanol yn cael eu cyplysu efo lleoliadau eraill i greu’r adeilad ‘Bedlam Height’ ffug; sef hen adeilad Fictoraidd sydd wedi’i drosi’n fflatiau moethus.
Meddai llefarydd ar ran y Brifysgol: “Roedd rhan fwya’r ffilmio’n digwydd fin nos a gyda’r nos, ac rwy’n deall bod pob dim wedi mynd yn dda. Roed y Brifysgol yn medru diwallu eu hanghenion heb greu gormod o gynnwrf, ac rwy’n deall bod y criw wedi gwirioni efo’n lleoliad. Roedd nifer fawr o’r criw hefyd wedi aros yn adnoddau llety’r Ganolfan Rheolaeth yn y Brifysgol.”
Mae datganiad y cwmni cynhyrch ar gael ar y dudalen Saesneg cyfatebol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2010