Croesawu “Brenhines” y Wladfa
Derbyniodd Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor ymwelydd arbennig iawn yn ddiweddar, sef Luned Gonzales, disgynnydd uniongyrchol o'r Cymry ag ymsefydlodd ym Mhatagonia 150 mlynedd yn ôl.
Mae Luned yn un o Gymry Patagonia ac ar hyn o bryd ar daith yng Nghymru. Mae ganddi raglen brysur wedi’i threfnu ar ei chyfer ond llwyddodd i ddod i’r Brifysgol yr wythnos diwethaf i weld arddangosfa “Y Cymry ym Mhatagonia”.
Mae Luned yn perthyn i linach bwysig yn hanes y Wladfa. Mae’n wyres i Llwyd ap Iwan a Myfanwy Ruffydd ac yn or-wyres i Michael D Jones a Lewis Jones, un yn sefydlydd y fenter a’r llall yn arweinydd cyntaf y Wladfa.
Rhoddodd Luned Gonzales sêl ei bendith ar yr arddangosfa ac mae hi a Iona Rhys Cooke (sydd hefyd yn or-wyres i Michael D Jones) wedi cyflwyno rhodd i Lynette Hunter o’r Archifdy, sef plac gwydr ac arno lun o Michael D Jones ar ran y teulu.
Mae’r arddangosfa ar agor i bawb i’w weld yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, ac mae’n parhau hyd ddiwedd y flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2015