Croesawu myfyrwyr rhyngwladol i Fangor
Casglodd y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol y nifer fwyaf erioed o fyfyrwyr rhyngwladol o Faes Awyr Manceinion fel rhan o’r gwasanaeth cludo myfyrwyr eleni.
Roedd deuddeg bws a dwsinau o wirfoddolwyr ar gael i gyfarfod y myfyrwyr yn y maes awyr ac yna i’w helpu gyda’u holl fagiau wrth iddynt gyrraedd Bangor. Roedd bysus-mini yr Undeb hefyd yn brysur yn mynd â’r myfyrwyr i’w llety, gyda Bar Uno yn cael ei ddefnyddio fel man canolog ar gyfer bwyd, adloniant a chymdeithasu ar y diwrnod.
Derbyniodd oddeutu 400 o fyfyrwyr rhyngwladol raglen gynefino arbennig yr wthnos cyn y prif Wythnos Groeso – gan sicrhau eu bod yn barod ar gyfer yr holl weithgareddau a phroses gofrestru yr wythnos ganlynol. Roedd rhaglen y cynefino cynnar yn cynnwys teithiau bws a cherdded, taith i Eryri, darlith ar hanes a diwylliant Cymru yn ogystal a nosweithiau bingo a thwmpath!
I’r holl fyfyrwyr rhyngwladol – gobeithio eich bod wedi mwynhau digwyddiadau’r rhaglen groeso a phob hwyl ar gyfer gweddill eich cyfnod ym Mangor!
https://www.instagram.com/bangorinternational/
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2016