Croesawu’r Ffagl Olympaidd i Brifysgol Bangor
Bydd pobl leol yn cael y cyfle i gael tynnu eu llun gyda’r Ffagl Olympaidd fel rhan o baratoadau Bangor i groesawu’r Fflam Olympaidd i’r ddinas gwanwyn nesaf.
Mae hyn yn dilyn llwyddiant Undeb Myfyrwyr Bangor yn cael ei ddewis fel un o ddim ond 20 o brifysgolion yn y DU sy’n croesawu Taith Coca-Cola y Ffagl Olympaidd.
O ganlyniad bydd Coca-Cola, Partner Cyflwyno Gemau Olympaidd Llundain 2012, ar y cyd ag Undeb Myfyrwyr Bangor, yn gwahodd myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol i ymweld â Bws Taith y Ffagl Olympaidd, a fydd ar safle preswyl y Ffriddoedd, Ffordd y Ffriddoedd, rhwng 11am a 5pm ar ddydd Iau 20 Hydref. Bydd bysiau gwennol o faes parcio’r Brifysgol yn Ffordd y Deon yn cludo ymwelwyr i’r bws. Caiff mwy o fanylion eu cyhoeddi ac fe fyddant ar gael o Undeb y Myfyrwyr ar 01248 388000 yn yr wythnosau i ddod.
Dywedodd Danielle Giles, Is-Lywydd Chwaraeon a Byw’n Iach Undeb y Myfyrwyr, “Rydym yn falch iawn o groesawu Taith Coca-Cola y Ffagl Olympaidd i’r Brifysgol mewn cydnabyddiaeth o gyfraniad cadarnhaol pobl ifanc yr ardal. Dyma’r cam cychwynnol mewn cyfres gyffrous o ddigwyddiadau byddwn yn eu cynnal ar gyfer pobl ifanc yn y gymuned yn y misoedd yn arwain at ymweliad y Fflam Olympaidd gwanwyn nesaf. Byddwn yn trefnu nifer o ddigwyddiadau chwaraeon gan gynnwys sesiynau blasu mewn amrywiaeth o chwaraeon ar gyfer plant ysgol lleol. Rydym wrth ein bodd fod pobl Bangor yn cael y cyfle i ddathlu a chofleidio delfrydau’r Gemau Olympaidd.”
Dywedodd Jo Caulfield, Llywydd yr Undeb: “Mae ymweliad y ffagl Olympaidd i Fangor yn achlysur gwirioneddol hanesyddol i ni. Mae’n fraint i’n cymuned allu bod yn rhan o daith y ffagl sy’n hyrwyddo diddordeb a chynnwrf byd-eang ym mhob agwedd o chwaraeon ac ymdrechion corfforol.”
Dywedodd Maer Bangor, y Cynghorydd Hugh Williams “Rwy’n falch fod Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais a bydd y digwyddiad hwn o fudd i Fangor a’r cylch ehangach. Mae’n beth rhagorol i’r Brifysgol a’r gymuned ehangach.”
Dylai ysgolion sy’n dymuno cymryd rhan yn y digwyddiad hwn a digwyddiadau diweddarach gysylltu ag olympictorch@undeb.bangor.ac.uk am wybodaeth bellach.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2011