Croesawu’r flwyddyn newydd Tsieineaidd gyda rhaglen gyffroes o gelfyddydau Tsieineaidd
Gall trigolion a myfyrwyr Bangor baratoi at groesawu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd mewn ffordd unigryw eleni. Cynhelir rhaglen lawn o weithgareddau diwylliannol Tsieineaidd i’w paratoi at gyfnod dathlu’r flwyddyn newydd Tsieineaidd rhwng 10-21 Chwefror.
Mae dydd Sadwrn, 2 Chwefror yn ddiwrnod na ddylid ei golli. Yn ystod y prynhawn, bydd perfformiadau wedi’u trefnu gan Sefydliad Confucius y Brifysgol yn cynnwys crefft ymladd, dawnsio gwerin a chanu gwerin. Gwneir pob un o'r perfformiadau gan artistiaid proffesiynol Tsieineaidd o Ysgol y Celfyddydau Prifysgol Normal Harbin yn Tsieina.
Cynhelir y perfformiadau yn Neuadd Prichard Jones, Prifysgol Bangor am 4.00. Bydd mynediad am ddim a chroeso i bawb. Meddai Dr Wei Shi, cyfarwyddwr y Sefydliad Confucius, "Mae'r flwyddyn newydd Tsieineaidd yn o’r uchafbwyntiau yng nghalendr pobl Tsieineaidd. Mae'n dechrau ar 10 Chwefror ac yn para tan 21 Chwefror. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae pobl Tsieineaidd yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a dathliadau, yn cynnwys gwneud twmplenni a chynnau tân gwyllt. Rydym am gynnal ein gweithgareddau cyn y flwyddyn newydd er mwyn i bobl gael gwybod am y dathliad ymlaen llaw."
Bydd y Sefydliad Confucius yn ymweld â nifer o ysgolion yr ardal ac yn cynnal gweithgareddau gyda'r disgyblion i ddynodi’r flwyddyn newydd. Cynhelir digwyddiadau hefyd ym Mangor yn ystod cyfnod y flwyddyn newydd a fydd yn cynnwys gweithdy gwneud llusernau.
Mae llusernau yn rhan bwysig o’r flwyddyn newydd Tsieineaidd gan ein bod yn eu defnyddio i addurno ein cartrefi ar gyfer y dathliadau," esboniodd Dr Wei Shi.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2013