Croeso Arbennig i Fyfyrwyr Rhyngwladol Prifysgol Bangor
Eleni, trefnodd Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol sesiwn gyfarwyddo gynharach ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol Bangor. Hwn oedd y tro cyntaf i hyn ddigwydd, a’r nod oedd darparu rhaglen groeso a oedd wedi’i llunio’n arbennig ac wedi’i ffocysu – gan roi cyfle i fyfyrwyr rhyngwladol drefnu’r holl agweddau ymarferol sy’n gysylltiedig â byw ac astudio mewn gwlad newydd, a hynny cyn rhaglen brysur yr Wythnos Groeso yn ganolog!
Manteisiodd mwy na 300 o fyfyrwyr ar y gwasanaeth casglu a gynigiwyd o Faes Awyr Manceinion ddydd Mercher 17 Medi – mwy na dwywaith y nifer a gasglwyd yn y blynyddoedd a fu yn ystod yr Wythnos Groeso. Yna, cafwyd dau ddiwrnod o ddarlithoedd, sesiynau gwybodaeth, teithiau cerdded a theithiau bws, a rhaglen gymdeithasol a oedd yn cynnwys noson fingo a Thwmpath Dawns Cymreig traddodiadol, a Neuadd PJ yn llawn i’r ymylon o fyfyrwyr a oedd yn profi croeso Cymreig traddodiadol.
Dywedodd Alan Edwards, Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol, “Rydym yn hapus iawn ynglŷn â’r ymateb a gafwyd i’r sesiwn gyfarwyddo a gynhaliwyd yn gynharach, ac yn ddiolchgar i’n holl gydweithwyr mewn adrannau eraill a fu’n gymorth i wneud y fenter yn gymaint o lwyddiant. Roedd myfyrwyr rhyngwladol yn gallu sicrhau eu llety, cwblhau eu cofrestriad a threfnu llawer o’r materion ymarferol sy’n gysylltiedig â symud i wlad newydd a byw ynddi, a hynny mewn da bryd ac mewn awyrgylch mwy hamddenol. Rydym yn gobeithio y gallant wedyn fwynhau’r Wythnos Groeso a chanolbwyntio ar weithgareddau yn eu Hysgolion.”
Mae’r Swyddfa Cefnogi Rhyngwladol yn parhau i ddarparu rhaglen ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn ystod yr Wythnos Groeso ganolog, er mwyn sicrhau bod unrhyw fyfyrwyr a oedd yn methu mynd i’r gweithgareddau cyfarwyddo cynharach yn cael budd o’r gwahanol sesiynau gwybodaeth a theithiau a fydd yn diweddu gyda thaith mewn bws o gwmpas Parc Cenedlaethol Eryri ddydd Sadwrn 27 Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2014