‘Cwffio achos’ y Celfyddydau
Mae gwaith Sioned Young yn dalcen caled ond yn un sy’n dod â “phleser mawr” iddi hefyd.
Mae’r ferch o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ynghanol interniaeth deng mis gyda chwmni Celfyddydau a Busnes Cymru yng Nghanolfan y Celfyddydau ac Arloesi Pontio, ym Mhrifysgol Bangor, yn chwilio am ffyrdd newydd o godi arian i’r celfyddydau.
Dywedodd Sioned: “Dw i’n hyfforddi i fod yn godwr arian proffesiynol i’r celfyddydau,” meddai. “Mae yna alw mawr am y math yma o waith achos does dim llawer o bobl yn ei wneud.”
Ar ôl gorffen cwrs gradd mewn Astudiaethau Creadigol ym Mhrifysgol Bangor a graddio yn yr haf, roedd Sioned yn awyddus i ymwneud ag ochr fusnes y celfyddydau.
Ychwanegodd: “Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am godi arian proffesiynol ar y cychwyn, ond mi oeddwn i’n angerddol iawn am y celfyddydau ac eisiau cwffio’r achos.”
Ac mae angen cwffio hefyd, meddai, a hynny am fod yr awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus yn wynebu mwy fyth o doriadau sy’n effeithio ar wasanaethau celfyddydol.
Dywedodd Sioned: “Rydw i wedi cael cychwyn gwych ar yr interniaeth ac wedi dysgu llawer iawn yn barod. Un uchafbwynt yn sicr yw clywed y newyddion da fod fy nghais gyntaf am grant wedi bod yn llwyddiannus. Mae’r grant gan Ŵyl Gwanwyn Age Cymru, gŵyl mis o hyd ym mis Mai sy’n dathlu creadigrwydd mewn henaint.
“Gyda’r arian, rydym ni am dangos ffilm clasur ynghyd a chynnal sesiwn canu ar y cyd i ddilyn – yn benodol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a phobl hyn sy’n dueddol o ddioddef o unigrwydd cymdeithasol.”
Meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig, Celfyddydau Pontio: “Mae Sioned wedi bod gyda ni ers mis Hydref eleni, ac am y 10 mis nesaf fe fydd Sioned yn datblygu ei dealltwriaeth o’r gwahanol feysydd codi arian ar gyfer y celfyddydau, ac yn ystyried ffynonellau cyhoeddus, ymddiriedolaethau a hefyd nawdd preifat. Mae’n faes eang iawn - a bydd yn treulio amser gyda mi yma yn adran Celfyddydau Pontio, gyda Swyddfa Ymchwil a Menter y Brifysgol ynghyd â’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni - pob un ohonom yn cynnig mewnwelediad gwahanol iawn i’r cyfleoedd sydd ar gael i godi arian.
“Bydd Sioned hefyd yn ein helpu i archwilio ffyrdd o sefydlu cynllun aelodaeth, yn cydlynu noson i annog busnesau i gefnogi’r celfyddydau, a hefyd yn ein helpu i sefydlu Cronfa Datblygu Celfyddydau Pontio.
“Mae’r gwaith o godi arian ym maes y celfyddydau yn dod yn fater sy’n gynyddol bwysig a pherthnasol i gwmnïau a sefydliadau creadigol, wrth i ni gyd geisio mynd i’r afael â ffyrdd newydd a dyfeisgar o godi arian a sicrhau hyfywedd.
“Mae cynllun interniaeth Celfyddydau a Busnes Cymru wedi bod yn rhedeg ers pum mlynedd bellach, ac mae’n braf gallu dweud mai dyma’r interniaeth gyntaf i’w chynnal trwy gyfrwng y Gymraeg ac eleni dyma’r unig interniaeth i’w leoli yn y gogledd.
“Mae gallu cynnig y cam cyntaf hwn i berson ifanc fel Sioned ar gychwyn gyrfa yn gyffrous iawn ac yn rhoi boddhad mawr i ni fel tîm. Rydym am achub ar y cyfle i wneud y mwyaf o’i chwmni gan obeithio y bydd ei phrofiadau yma yn ein plith yn cynnig sail gadarn ar gyfer ei chamau hyderus nesaf i’r dyfodol.”
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018