Cwmni cyfreithiol lleol yn dathlu ei flwyddyn gyntaf o weithredu
Mae dau gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn dathlu pen-blwydd cyntaf sefydlu eu cwmni cyfreithiol eu hunain y mis hwn. Mae Nelson Myatt Solicitors LLP, o Gyffordd Llandudno, yn delio â phob agwedd ar gyfraith sifil ac maent yn gwmni modern sy’n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf er budd eu cleientiaid.
Roedd Andrew Nelson a Claire Myatt yn rhan o'r garfan gyntaf o fyfyrwyr i raddio o Ysgol y Gyfraith yn y Brifysgol wedi iddi gael ei sefydlu yn 2004.
Yn dilyn gyrfa 8 mlynedd yn y Fyddin a 12 mlynedd fel Hyfforddwr Mynydda, roedd Andrew eisiau newid gyrfa’n llwyr ac eisiau gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron. Ar ôl cyfnod o brofiad gwaith gyda'r CPS, a oedd yn cynnwys mynychu llys y goron, cafodd ei ysbrydoli i fod yn fargyfreithiwr.
Meddai Andrew am ei gyfnod ym Mangor: "Cefais amser anhygoel yn ystod fy nhair blynedd ym Mangor. Rwy’n cofio bod yn hynod o nerfus pan ddaeth yn ddiwrnod canlyniadau, yn enwedig gan fod angen 2.1 i fynd ymlaen i Ysgol y Bar. Un o’r uchafbwyntiau oedd trip yng nghwmni fy nghyd fyfyrwyr a darlithwyr i Lys Cyfiawnder Ewrop a Llys Hawliau Dynol Ewrop. Bu’n agoriad llygad arbennig iawn. Rwy'n ddiolchgar i'r Brifysgol am brofiad dysgu gwych sydd wedi bod yn sylfaen ragorol i’m gyrfa gyfreithiol."
Treuliodd Claire, sydd â thri phlentyn, 19 mlynedd fel gwas sifil yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd hi wastad eisiau dysgu mwy am y gyfraith. Edrychodd Claire i mewn i'r posibilrwydd o astudio am Lefel A mewn dosbarth nos yng Ngholeg Llandrillo, ond darganfu nad oedd opsiwn o'r fath i’w gael. Fodd bynnag, roedd cwrs HNC undydd yr wythnos yn cael ei gynnig. Trafododd gyda'i chyflogwr i gael amser o’i gwaith i fynychu'r cwrs ac fe wnaeth Claire fwynhau’r profiad dysgu yn fawr iawn. Flwyddyn yn ddiweddarach, gwelodd hysbyseb yn y papur lleol am y cwrs gradd newydd yn y gyfraith ym Mangor a phenderfynodd mai hwn oedd y cam rhesymegol nesaf ei thaith ddysgu.
Meddai Claire: "Drwodd a thro, cefais brofiad gwych ym Mangor. Y ni oedd y garfan gyntaf i raddio yn y gyfraith, ac er ei bod yn garfan amrywiol o bob oedran gyda chymysgedd o rai newydd adael yr ysgol a myfyrwyr hŷn, roedd pawb yn cyd-dynnu’n wych ac mae llawer yn dal i gadw mewn cysylltiad."
Ar ôl graddio yn 2007, aethant i Brifysgol Fetropolitan Manceinion i wneud Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar ac yna bu’r pâr yn gweithio gyda gwahanol gwmnïau cyn sefydlu eu cwmni eu hunain.
Meddai, Aled Griffiths, Uwch Ddarlithydd ar y pryd:
"Roedd Claire ac Andrew yn aelodau ein blwyddyn gyntaf un o fyfyrwyr y gyfraith. Roedd y grŵp penodol yma yn wych ym mhob ystyr ac roeddem yn ffodus iawn i gael dechrau mor dda. Mae'n golygu ein bod wedi sefydlu enw da o'r dechrau ac mae'n dal i ddatblygu. Roedd nifer o rai newydd adael ysgolion lleol, yn ogystal â myfyrwyr hŷn fel Claire ac Andrew, yn y grŵp, ac roeddynt i gyd yn cyd-dynnu'n wych ac yn gwthio ei gilydd. Mae nifer ohonynt wedi mynd ymlaen i wneud marc yn y proffesiwn cyfreithiol, fel darlithwyr, cyfreithwyr neu weinyddwyr, ac mae Claire ac Andrew yn enghreifftiau da iawn.
"Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn gwneud yn dda iawn yn eu practis newydd oherwydd roeddent yn cyd-dynnu’n dda gyda phobl, yn gweithio'n galed a chyda diddordeb mawr ym mhob agwedd ar y gyfraith."
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2015