Cwmni theatr dawns balletLORENT yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf gyda chynhyrchiad newydd o’r hen ffefryn Eira Wen
Bydd balletLORENT yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf mis nesaf, gan ddod a’i cynhyrchiad diweddaraf, addasiad arbennig o’r clasur Eira Wen, i Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor 11-12 Tachwedd.
Bydd 11 dawnsiwr proffesiynol balletLORENT yn ymuno â chast o 12 o blant lleol 6-9 oed.
Y coreograffydd a’r cyfarwyddwr yw Liv Lorent MBE, cyfarwyddwr artistig balletLORENT a chyda’r bardd adnabyddus Carol Ann Duffy yn gyfrifol am y geiriau, Snow White yw’r ail mewn trioleg o gynhyrchiadau gan y cwmni yn seiliedig ar straeon adnabyddus yn dilyn llwyddiant ysgubol fersiwn y cwmni o Rapunzel.
“Rydym wedi dod o hyd i gymaint sydd i’w garu am stori Eira Wen. Mae’n llawn tywyllwch a golau, fel mae’r straeon tylwyth teg gorau,” esboniai Liv Lorent.
Mae Liv Lorent wedi ailymuno â’r tîm adnabyddus greodd Rapunzel: Dame Carol Ann Duffy (ennillydd Gwobrau Whitbread, T.S. Eliot a Pinter); Murray Gold – cyfansoddwr cerddoriaeth Doctor Who, y cynllunydd set Phil Eddolis (ennillydd gwobr TMA am The Hanging Man gan Improbable) cynllunydd golau Malcom Rippeth (ennillydd gwobrau OBIE a Outer Critics Circle) a’r Royal Northern Sinfonia, unig gerddorfa siambr llawn amser Prydain.
“Pleser o’r mwyaf yw gweithio unwaith eto gyda Liv Lorent a’i thïm creadigol, ac i ddod a stori adnabyddus arall i deuluoedd sy’n mwynhau dawns neu sydd heb ddarganfod y math yma o sioe eto,” meddai Carol Anne Duffy.
Mae tri aelod newydd yn y tîm artistig ar gyfer Snow White: yr actores Lindsay Duncan (enillydd Gwobr Olivier) arlunydd gwisgoedd ar gyfer Game of Thrones gan HBO, Libby Everall fel cynllunydd gwisgoedd a’r soprano o Gymru Elin Manahan Thomas sy’n ychwanegu rhagor o hud i’r stori tylwyth teg gyda’i llais arbennig.
Cafodd gweithdai eu cynnal yn Ysgol Glancegin a chlyweliadau agored eu cynnig yn Pontio i ddod o hyd i’r cast ifanc, sy’n cynnwys 5 bachgen a 7 merch – plant o ysgolion Glancegin, Bangor, Ysgol Gynradd Llanfairpwll, Ysgol Bryngwran, Ysgol Gynradd Bodedern a Ysgol Llandygai, Bangor.
“Mae’r oedran yma yn gyfnod pwysig iawn yn datblygiad plentyn, oherwydd mae eu synnwyr o’i hunain, eu hunan-hyder a symudiad, dal yn datblygu. Yn ystod y cyfnod yma, mae ganddynt dalent naturiol, maent yn llai hunanymwybodol, mae ganddynt harddwch naturiol wrth symud ac angen i fynegi ei hunain sy’n gallu cael ei ddefnyddio i greu rhywbeth arbennig iawn,” esboniodd Liv Lorent.
Cafodd Snow White ei berfformio gyntaf yn y Northern Stage, Newcastle ac mae wedi teithio ar draws y DU i leoliadau megis y Festival Theatre Caeredin a The Lowry yn Manceinion.
Cynhyrchiad ar y cyd gyda Northern Stage gomisiynwyd gan Sadler’s Wells.
Mae deunydd fideo o’r cast ifanc yn ddisgrifio eu hoff gymeriadau o straeon tylwyth teg ac yn gofyn cwestiwn arbennig i’r drych hyd yma:
https://www.facebook.com/balletlorent/posts/10154584255639521
Snow White
balletLORENT
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor
Gwener 11 Tachwedd 7pm
Sadwrn, 12 November 3pm
£15/£13/£10 myfyrwyr ac o dan 18oed
Tocyn Teulu (i bedwar, un o dan 18oed) £45
Oedran: 7+
Tocynnau o www.pontio.co.uk neu 01248 38 28 28 neu galwch yn y ganolfan.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2016