Cwmnïau Bach a Chanolig yng Ngogledd Cymru yn hybu eu medrau rheoli ac arwain diolch i raglen Ysgol Busnes Bangor
Tri ar hugain o berchnogion busnesau yw’r cynrychiolwyr cyntaf i raddio â marciau uchel yn rhaglen gyntaf LEAD ym Mhrifysgol Bangor. Cynhaliwyd y seremoni raddio gyntaf ar gyfer Cwmnïau Bach a Chanolig ar Raglen LEAD Cymru ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener 15 Gorffennaf 2011. Amcan y rhaglen yw rhoi’r adnoddau a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar berchnogion-reolwyr er mwyn harneisio medrau ac egni eu staff yn llwyr, adnabod cyfleoedd ar gyfer mwy o effeithlonrwydd a manteisio ar y cyfleoedd hynny, a chreu sylfaen gadarn ar gyfer twf. Roedd cynrychiolwyr busnesau a gymerodd ran yn rhaglen LEAD ym Mhrifysgol Bangor yn cynrychioli bron pob cangen o fusnes, gan gynnwys Cyfreithiwr, Sw Môr, Asiantaeth Recriwtio, Pensaer, Cwmni Bysus Pleser, Bragdy a Meithrinfa Ddydd i Blant.
Ieuan Wyn Jones, Carfan 1 o raglen LEAD Cymru gyda Ieuan Wyn Jones (Aelod Cynulliad dros Ynys Môn), yr Athro Philip Molyneux a'r Athro Sally Sambrook yn eu seremoni graddio ar 15fed Gorffennaf 2011. Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, a gyflwynodd y tystysgrifau yn y seremoni raddio. "Mae project LEAD Cymru eisoes yn profi ei werth, gyda'r ddarpariaeth o ddosbarthiadau Meistr mewn medrau arwain a rheoli ar gyfer busnesau bach a chanolig. Roedd yn bleser gen i fod yn bresennol yn y seremoni raddio ym Mangor yr wythnos ddiwethaf, pryd y cyflwynwyd tystysgrifau i 23 o bobl fusnes. Yn ystod y seremoni, clywsom oddi wrth nifer o bobl fusnes a ddywedodd iddynt gael budd enfawr o'r cwrs, a'u bod eisoes yn gweld gwelliannau ym mherfformiad eu busnes".
Roedd yr Athro Phil Molyneux, Pennaeth y Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithas a Chyfraith ym Mhrifysgol Bangor hefyd yn dyfarnu’r tystysgrifau. “Mae Rhaglen LEAD ym Mhrifysgol Bangor yn cynnwys Dosbarthiadau Meistr, Hyfforddiant, Cyfresu Dysgu ac Elfen o Sodli a Chyfnewid sy’n mynd â Pherchnogion-Reolwyr ar chwe mis o siwrnai, o frwydro i reoli eu cwmni hyd at ei arwain. Yn ôl ymchwil, gall Perchnogion-Reolwyr, ar adegau, deimlo fel pe baent wedi’u hynysu pan fyddant yn ymdrin â phroblemau beunyddiol. Mae LEAD Cymru yn rhoi Perchnogion-Reolwyr Cwmnïau Bach a Chanolig gyfle i’r helpu i drawsnewid eu busnes a’r modd y maent yn ei arwain, gan eu helpu i archwilio’r nodweddion personol sydd eu hangen arnynt er mwyn cael y gorau gan eu gweithwyr, gan bwyso a mesur medrau a phrofiad pobl eraill hefyd.”
Mae LEAD Cymru yn rhaglen ddatblygu chwyldroadol a thra llwyddiannus sy’n paratoi perchnogion-reolwyr ar Gwmnïau Bach a Chanolig i wella eu medrau fel arweinwyr, ac i symud eu busnes at y lefel nesaf. Y rhaglen £8 miliwn yw’r 100fed i’w chyllido yn yr UE yn rhanbarth Cydgyfeirio Gorllewin Cymru, a darperir hi trwy Ysgol Busnes ac Economeg Prifysgol Abertawe ac Ysgol Busnes Bangor.
Ni chodir tâl am y rhaglen, sy’n werth £11,000 i bob cynrychiolydd busnes. Os ydych yn berchen ar Gwmni Bach neu Ganolig ac yn teimlo y gallech symud eich busnes i lefel arall, gellwch ddysgu mwy wrth ffonio tîm LEAD Cymru ym Mangor: 01248 383569 neu e-bost lead@bangor.ac.uk neu wrth fynd i www.leadwales.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2011