Cwpan Futsal Agoriadol Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn barod am y gic gyntaf ym Maes Glas
Ddydd Sadwrn 22 Mai, bydd 28 o dimau o Gymru benbaladr yn dod i Brifysgol Bangor i gystadlu am Gwpan Futsal cyntaf Cymdeithas Bêl-Droed Cymru a’r cyfle i ymgymhwyso ar gyfer Ewrop.
Bydd y digwyddiad yn cychwyn gyda chystadleuaeth Gogledd Cymru a De Cymru, a Chanolfan Chwaraeon Maes Glas yn croesawu cymal gogleddol y gêm gyflym hon. Mae gwobrau gwerth cyfanswm o £4,500 i’w hennill, yn ogystal â’r anrhydedd o godi Cwpan Futsal Cenedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae FIFA, UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i gyd yn cydnabod Futsal fel fersiwn swyddogol pêl-droed 5 bob ochr. Bydd nifer y timau’n cystadlu ar gyfer y Cwpan yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd nesaf, i gynnwys cystadlaethau i ferched, ieuenctid a chwaraewyr anabl.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2011