Cwpan y Byd 2014: Mae ennill gornest gicio o'r smotyn yn gofyn am wytnwch meddwl: ond yn ffodus, mae'n rhywbeth y gellir ei ddysgu
Mae'r gornestau cicio o'r smotyn, sy'n penderfynu tynged gêm, wedi dechrau yng Nghwpan y Byd 2014. Ar ôl dwy awr o chwarae sy'n dreth gorfforol ac emosiynol ar y chwaraewyr, rhaid iddynt sefyll mewn rhes a fesul un, herio'r gôl geidwad o'r smotyn. Mae canlyniad cic o'r smotyn yn creu arwyr a dihirod, ac mae unrhyw un sy'n gwylio - p'un a ydyn nhw'n cefnogi un o'r timau sy'n chwarae ai peidio - yn gallu cydymdeimlo á'r chwaraewyr hynny.
Mae ennill gornest gicio o'r smotyn yn gofyn am wytnwch meddwl: ond yn ffodus, mae'n rhywbeth y gellir ei ddysgu. Mae Dr Gavin Lawrence, Darlithydd mewn Rheoli Echddygol a Dysgu a Dr Stuart Beattie, Darlithydd mewn Seicoleg, y ddau yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, yn esbonio sut mewn erthygl yn The Conversation.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2014