Cwrs newydd a gyllidir gan y GIG yn recriwtio gweithwyr iechyd lleol
Mae grŵp o Weithwyr Cefnogi Gofal Iechyd wedi dechrau gradd nyrsio rhan amser arloesol ym Mhrifysgol Bangor.
Mae'r cynllun hwn, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi cefnogaeth i weithwyr cefnogi gofal iechyd presennol i ddatblygu eu gyrfaoedd i fod yn nyrsys cofrestredig.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor wedi datblygu rhaglen bwrpasol ar y cyd ar gyfer y grŵp unigryw hwn o Weithwyr Cefnogi Gofal Iechyd talentog a phrofiadol i ddatblygu eu haddysg a chyrraedd eu nod i fod yn nyrsys.
Cefnogir y myfyrwyr ar y rhaglen gan y Bwrdd Iechyd a byddant yn astudio'n rhan amser, gan barhau i weithio yn eu swyddi arferol am ran o'r wythnos waith.
Rhagwelir y caiff y rhaglen ei hymestyn ymhellach dros y flwyddyn nesaf i alluogi rhagor o weithwyr cefnogi gofal iechyd i fod yn nyrsys. Gellir gwneud ceisiadau yn awr ar gyfer y garfan nesaf o fyfyrwyr maes Oedolion a Iechyd Meddwl, fydd yn dechrau yng ngwanwyn 2019.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, Chris Burton, "Mae hon yn enghraifft arall o'n partneriaeth agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael effaith wirioneddol nid yn unig ar gyfleoedd gyrfa'r myfyrwyr hyn ond hefyd ar ddarparu gweithlu lleol i'r Bwrdd Iechyd sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i ofal iechyd yng Ngogledd Cymru. Mae'r cynllun Hyfforddi Gweithio Byw yn gwneud cynnydd gwirioneddol wrth fynd i'r afael â nifer y swyddi gwag yn y Bwrdd Iechyd ac rydym wrth ein bodd i fod yn rhan ohono."
Meddai un myfyriwr a ddechreuodd ar y cwrs eleni, "Rwy'n wir mwynhau bod yn fyfyriwr. Rwyf wedi cael llawer o gefnogaeth gan fy nhiwtor a phob aelod staff rwyf wedi cwrdd â nhw hyd yma."
Dywedodd myfyriwr arall, "Mae’n gyfle gwych i ddatblygu fy ngyrfa fel Nyrs Gofrestredig. Ni fyddwn byth wedi gallu fforddio ei wneud heb y rhaglen."
Eglurodd Angela Johnson, Rheolwr Moderneiddio'r Gweithlu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, "Bydd y rhaglen newydd hon yn helpu i roi cyfle i'n gweithwyr ddatblygu eu sgiliau a gwella eu gyrfaoedd ac yn chwarae rhan bwysig o ran mynd i'r afael â'r swyddi nyrsio gwag yn y Bwrdd Iechyd trwy ddarparu graddedigion nyrsio newydd o gymunedau lleol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol. Rydym yn falch iawn ein bod wedi sefydlu'r rhaglen hon."
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs, cysylltwch â Gill Truscott: g.truscott@bangor.ac.uk
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2018