Cwrs Niwclear yn Llwyddiant Ysgubol
Yn ddiweddar fe ddysgodd hanner cant o ddisgyblion o ogledd Cymru sut i ddatrys rhai o’r sialensiau sy’n wynebu’r diwydiant niwclear. Yn ystod y cwrs preswyl tri diwrnod cyflwynwyd amrywiaeth o bynciau amserol, yn cynnwys ymbelydredd, yr amgylchedd, iechyd a diogelwch a datgomisiynu gorsafoedd, i'r myfyrwyr. Noddwyd y cwrs gan Brifysgol Bangor, RWE Npower Renewables a The Smallpiece Trust.
Gan weithio mewn timau, cymerodd y disgyblion 13 a 14 oed o Ysgol Uwchradd Y Rhyl, Ysgol Uwchradd Cei Connah, Ysgol John Bright ac Ysgol Dyffryn Conwy ran mewn cyfuniad o gyflwyniadau, gweithdai, projectau ‘cynllunio a gwneud’ ymarferol, ac asesiad terfynol a oedd yn cynnwys gwisgo dillad gwarchodol llawn.
Roedd y project ‘cynllunio a gwneud’, a arweiniwyd gan beirianyddion go iawn o’r ‘National Nuclear Laboratory’, yn rhoi her i fyfyrwyr symud gwastraff o un lleoliad i’r llall. Roedd rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno’u syniadau mewn sefyllfa “Dragon’s Den” er mwyn cael cyllid a oedd wedyn yn eu galluogi i fynd allan a gwneud eu cynllun.
Yn ogystal â gweithio ar y cynllun, adeiladu elfennau o’r projectau a’u profi, roeddent yn datblygu sgiliau bywyd fel gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau, rheoli amser, cyllid a chyflwyno. Roedd y rhaglen gymdeithasol yn cynnwys cwis, gweithgareddau chwaraeon a chinio ffurfiol a disgo.
Meddai Stevie Scanlan, Rheolwr Marchnata o Goleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol Prifysgol Bangor: “Mae’n bleser gennym gynnal digwyddiad sy’n cynnwys pobl ifanc mewn sefyllfaoedd gwyddonol go iawn. "Rydym yn gobeithio y bydd cymryd rhan yn eu hannog i barhau â’u diddordeb ym mhynciau’r gwyddorau. Eleni daeth peirianwyr o Raglen Hyfforddi Magnox i Raddedigion atom i roi cymorth gyda'r gweithgareddau."
Ychwanegodd Gemma Murphy, Pennaeth Marchnata a Datblygu The Smallpeice Trust: “Diolch i nawdd hael gan Brifysgol Bangor, roedd yn bleser gennym allu cynnig y profiad unigryw hwn o’r diwydiant niwclear i ddisgyblion gogledd Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae datblygiadau cyffrous yn y sector niwclear wedi deillio'n uniongyrchol o bwysigrwydd cynyddol lleihau allyriadau carbon a sicrhau cyflenwadau ynni diogel. Cyfleoedd fel y rhain fydd yn ysbrydoli myfyrwyr i fynd i’r afael â’r sialensiau hyn ac arwain datblygiadau yn y dyfodol.”
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2013