Cwrs Preswyl Cymraeg yn denu dros 160
Rhwng 14-18 Tachwedd, daeth dros 160 o ddisgyblion lefel ‘A’ Cymraeg – iaith gyntaf ac ail iaith – ynghyd i wersyll yr Urdd, Glan-llyn ar gyfer cwrs preswyl a drefnir ar y cyd gan yr Urdd ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor.
Meddai’r Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg:
“Unwaith eto eleni, roedd y cwrs yn llwyddiant ysgubol a pharatowyd arlwy amrywiol a chyfoethog ar gyfer y disgyblion a’uhathrawon gan awduron ac arbenigwyr fel Manon Steffan Ros, Ifor ap Glyn, Myrddin ap Dafydd, Karen Owen a Menna Baines. Caed cyfle hefyd nid yn unig i glywed aelodau o staff Ysgol y Gymraeg fel Angharad Price, Jason Walford Davies, Manon Wyn Williams ac Aled Llion Jones ond hefyd Gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, Llion Jones, a myfyrwyr ymchwil fel Gruffudd Antur ac Elis Dafydd, dau o brifeirdd Eisteddfod yr Urdd.”
Un o uchafbwyntiau’r cwrs bob blwyddyn yw’r Talwrn a dyfernir replica o gadair a wnaed gan y gof, Angharad Pearce Jones. Yn y llun, gwelir yr enillydd, Meleri Williams o Ysgol Gyfun Gŵyr yng nghwmni’r Athro Jason Walford Davies. Llongyfarchiadau calonnog iddi!
Ychwanegodd Gerwyn Wiliams:
“Mae Meleri mewn olyniaeth gref oherwydd yn y blynyddoedd diwethaf, aeth enillwyr y gadair hon – Iestyn Tyne, Gwynfor Dafydd a Lois Llywelyn Williams - yn eu blaenau i ennill rhyngddynt Goron, Cadair a Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd.”
Mae’r neges yn syml felly: os am ragori yn eich arholiadau lefel ‘A’ ac ennill un o brif lawryfon yr Urdd, dyma’r cwrs ar eich cyfer chi!
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2016