Cydnabod gwaith da wrth farchnata Prifysgol Bangor
Yn dilyn yr ystadegau diweddar sy’n dangos bod Bangor wedi cynyddu nifer ei cheisiadau israddedig o 21% o gymharu â chynnydd o 3% ymysg ei chystadleuwyr, daw’r newyddion fod tîm marchnata Bangor wedi ei enwebu am wobr adran farchnata’r flwyddyn Euro RSCG Heist.
Dywed Alan Parry, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata: “Y gwobrau blynyddol hyn yw’r prif wobrau i'r sector marchnata AU, felly rwyf wrth fy modd bod y Brifysgol wedi cael ei henwebu. Rydym yn llawn haeddu cael cydnabyddiaeth genedlaethol, ac mae’n dystiolaeth annibynnol o sgil ac ymroddiad pob aelod staff sy’n ymwneud â marchnata’r Brifysgol.
“Er mai dim ond tîm bychan sydd gennym, mae’n ymroddgar dros ben ac yn gweithio’n ddygn ar ran y Brifysgol. Mae ein llwyddiant yn ganlyniad o’n hymdrechion fel tîm, a dylai pob unigolyn sydd ag ymwneud fod yn falch iawn o’u llwyddiant.
Dywed Carys Roberts, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr: “Rydym yn gyfrifol am amrywiaeth eang o weithgarwch marchnata a recriwtio, ac mae cael ein rhoi ar restr fer y wobr hon yn gydnabyddiaeth o’r egni, y sgiliau a’r arbenigedd rydym yn ceisio eu rhoi yn ein holl waith.”
Roedd y cais am y wobr yn cynnwys amlinelliad o gyfraniad y tîm marchnata at brif amcanion y Brifysgol, megis cynyddu nifer y myfyrwyr ac ehangu mynediad. Roedd hefyd yn amlygu rhai llwyddiannau penodol yn y flwyddyn ddiwethaf - megis gwefan y Brifysgol yn cael ei enwi fel un o’r goreuon yn y DU i ddarpar fyfyrwyr, ymgyrch yn canolbwyntio ar gynnal Big Weekend Radio 1 ym Mangor, cyflwyno system newydd sy’n cynorthwyo i gysylltu efo rhai sy’n gwneud cais i’r Brifysgol, ail-frandio’r Brifysgol a denu mwy o ymwelwyr i ddyddiau agored y Brifysgol.
Cyhoeddir y canlyniad mewn digwyddiad ym mis Mai.
DIWEDD
16.5.11
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2011