Cydnabod gwaith da wrth farchnata Prifysgol Bangor
Heno ( 26.5.11), bydd tîm marchnata Prifysgol Bangor yn clywed os ydynt am lwyddo cipio gwobr Adran Farchnata’r Flwyddyn Euro yn noson gwobrwyo RSCG Heist. Mae hyn yn dilyn ystadegau diweddar sy’n dangos bod y Brifysgol wedi cynyddu nifer ei cheisiadau israddedig o 21% o gymharu â chynnydd o 3% ymysg ei chystadleuwyr.
Dywed Alan Parry, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata: “Y gwobrau blynyddol hyn yw’r prif wobrau i'r sector marchnata AU, felly rwyf wrth fy modd bod y Brifysgol wedi ei osod ar y rhestr fer. Rydym yn llawn haeddu cael cydnabyddiaeth genedlaethol, ac mae’n dystiolaeth annibynnol o sgil ac ymroddiad pob aelod staff sy’n ymwneud â marchnata’r Brifysgol.
“Er mai dim ond tîm bychan sydd gennym, mae’n ymroddgar dros ben ac yn gweithio’n ddygn ar ran y Brifysgol. Mae ein llwyddiant yn ganlyniad o’n hymdrechion fel tîm, a dylai pob unigolyn sydd ag ymwneud fod yn falch iawn o’u llwyddiant.
Dywed Carys Roberts, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr: “Rydym yn gyfrifol am amrywiaeth eang o weithgarwch marchnata a recriwtio, ac mae cael ein rhoi ar restr fer y wobr hon yn gydnabyddiaeth o’r egni, y sgiliau a’r arbenigedd rydym yn ceisio eu rhoi yn ein holl waith.”
Roedd y cais am y wobr yn cynnwys amlinelliad o gyfraniad y tîm marchnata at brif amcanion y Brifysgol, megis cynyddu nifer y myfyrwyr ac ehangu mynediad. Roedd hefyd yn amlygu rhai llwyddiannau penodol yn y flwyddyn ddiwethaf - megis gwefan y Brifysgol yn cael ei enwi fel un o’r goreuon yn y DU i ddarpar fyfyrwyr, ymgyrch yn canolbwyntio ar gynnal Big Weekend Radio 1 ym Mangor, cyflwyno system newydd sy’n cynorthwyo i gysylltu efo rhai sy’n gwneud cais i’r Brifysgol, ail-frandio’r Brifysgol a denu mwy o ymwelwyr i ddyddiau agored y Brifysgol.
http://www.eurorscgheist.com/events/awards.html
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2011