Cydnabod polisïau Cyflogaeth Rhagorol
Mae polisïau cyflogaeth rhagorol Prifysgol Bangor yn ei chaniatáu i ddenu rhai o’r ymchwilwyr gorau ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, ac fe gaiff ei hyn ei gydnabod am bedair blynedd arall yn dilyn adolygiad llwyddiannus o Wobr Rhagoriaeth AD mewn Ymchwil Comisiwn Ewropeaidd y Brifysgol.
Mae Prifysgol Bangor yn un 100 o sefydliadau yn unig yn y DU ac ychydig dros 300 ar draws Ewrop i feddu ar y Wobr.
Mae cwblhau’r asesiad yn llwyddiannus, sy’n cael ei gynnal pob pedair blynedd gan Vitae, elusen annibynnol sydd yn rheoli’r Wobr yn y DU, yn dangos ymroddiad y Brifysgol i bolisïau cyflogaeth rhagorol ar gyfer staff ymchwil.
Mae’r Wobr yn cydnabod bod y sefydliad wedi cwblhau dadansoddiad mewnol er mwyn cymharu arfer yn erbyn egwyddorion y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ymchwilwyr a’r Cod Ymddygiad ar gyfer recriwtio ymchwilwyr (European Charter for Researchers a Code of Conduct for the Recruitment of Researchers neu ‘Charter and Code’). Caiff cymariaethau eu gwneud gyda meysydd megis moeseg, hyfforddi a recriwtio ac yna mae’r sefydliad yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu er mwyn gweithredu eu strategaeth i fabwysiadu yn llawn egwyddorion y Siarter a’r Cod.
Meddai Nia Gwyn Meacher, Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol (Adnoddau):
“Enillodd y Brifysgol y Wobr am y tro cyntaf yn 2012 ac ers hynny rydym wedi parhau i wella ein polisïau a’n cefnogaeth ar gyfer ymchwilwyr ymhob cyfnod o’u gyrfaoedd. Rydym yn gwneud hynny er mwyn sicrhau bod Prifysgol Bangor yn gyflogwr deniadol i’r ymchwilwyr a’r academyddion rhyngwladol gorau.’
Ychwanegodd yr Athro Jo Rycroft-Malone, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil):
“Gan gyplysu’r dyfarniad yma â chanlyniad rhagorol y Brifysgol am ansawdd ryngwladol ei hymchwil ac ansawdd ei dysgu, safle’r Brifysgol ymhlith y 15 prifysgol orau yn y DU yn ôl boddhad myfyrwyr, ynghyd â lleoliad gwych y Brifysgol, mae’r gydnabyddiaeth ddiweddar yma yn cadarnhau ein bod yn darparu cymuned lewyrchus i weithio ac astudio ynddi.”
Ceir ragor o wybodaeth am y Wobr yma: www.vitae.ac.uk/hrexcellenceaward
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2016