Cydnabyddiaeth genedlaethol i NWORTH, Uned Dreialon Glinigol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am gynnal treialon astudiaethau clinigol o’r ansawdd uchaf.
Mae Cymdeithas Hap-dreialon Iechyd (a Gofal Cymdeithasol) Gogledd Cymru (NWORTH), sef yr uned dreialon yn y Sefydliad Ymchwil Gofal Meddygol a Chymdeithasol (IMSCaR) yng Ngholeg y Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad (CoHaBS) wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol gan Gydweithrediad Ymchwil Clinigol y DU (UKCRC)fel uned dreialon glinigol wedi ei chofrestru’n llawn am ragoriaeth ymchwil wrth gynnal treialon clinigol aml ganolfan ac astudiaethau eraill sydd wedi eu cynllunio'n dda.
Dywedodd yr Athro Jo Rycroft-Malone, Cyfarwyddwr Ymchwil y Brifysgol, y Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi, “Mae’r ffaith bod NWORTH wedi cael ei ailgofrestru yn dystiolaeth o ansawdd y gwaith maent wedi ei wneud a’r prosesau a sefydlwyd ganddynt i gyflawni ymchwil cadarn a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ymchwil iechyd a meddygol yn rhan bwysig o strategaeth ymchwil Prifysgol Bangor ac mae llwyddiant parhaus yr uned dreialon yn helpu’r brifysgol i gyflawni’r agenda hwn gyda’n partneriaid ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd sêl bendith UKCRC ar waith NWORTH yn sicrhau y byddant yn mynd o nerth i nerth wrth gyflawni ymchwil sydd â’r potensial i wella iechyd y gymuned leol a thu hwnt."
Meddai’r AthroBob Woods, Pennaeth dros dro IMSCaR, “Rydym yn ffodus iawn fod gennym gymaint o arbenigedd yng ngogledd Cymru wrth werthuso ymyriadau gofal iechyd cymhleth, ac mae'r gydnabyddiaeth hon o'r Uned Dreialon yn cadarnhau bod Bangor yn ganolfan sy'n arwain yn y gwaith hwn."
Meddai Rhiannon Whitaker, Cyfarwyddwr Gwyddonol Cysylltiol NWORTH, “Rydym yn falch iawn bod ein gwaith caled yn cefnogi'r astudiaethau ar hyd y lled y DU wedi cael ei gydnabod fel un sy'n haeddu cofrestriad llawn yn unol â phroses UKCRC sy’n enwog drwy’r byd. Mae ein statws cofrestredig yn rhoi sicrwydd i glinigwyr, cyfranogwyr a chyllidwyr bod yr ymchwil a ddaw o’n huned o’r ansawdd gorau."
I gael cofrestriad llawn gan yr UKCRC, roedd rhaid i NWORTH ddangos enw da a phrofiad o gydgysylltu treialon rheoledig ar hap mewn nifer o ganolfannau, tîm craidd o staff arbenigol i ddatblygu astudiaethau, a systemau a phrosesau sicrhau ansawdd cadarn i gyflawni rheoliadau a deddfwriaeth priodol a thystiolaeth o hyfywedd gallu yn y tymor hirach i gydgysylltu treialon a datblygu/cynnal portffolio treialon.
Dywedodd pwyllgor adolygu rhyngwladol yr UKCRC bod “yr uned yn rhaglen sydd wedi ei llunio a’i hystyried yn dda gyda thystiolaeth eglur o brofiad gweithredu wedi ei hen sefydlu wrth gynllunio a chyflawni treialon clinigol aml ganolfan ar raddfa fawr wedi ei chefnogi gyda set gref o gyhoeddiadau... yn rhaglen gref... a oedd yn bodloni’r meini prawf i gael ei chofrestru’n llawn.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2012