Cydnabyddiaeth i fardd sy’n trydar
Mae llyfr arloesol o drydar cynganeddol o waith Dr Llion Jones wedi’i osod ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2013.
Mae’r gyfrol, Trydar mewn Trawiadau (Cyhoeddiadau Barddas), wedi’i disgrifio fel y casgliad cyntaf o drydar yn y Gymraeg, ac un o’r casgliadau cyntaf o drydargerddi mewn unrhyw iaith.
Ers dros dair blynedd, mae Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr a phrifardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol 2000, wedi bod yn gwneud defnydd creadigol o gyfrwng poblogaidd Twitter i drydar mewn cynghanedd yn unig, gan ddefnyddio’r 140 nod cyfrifiadurol y mae Twitter yn eu caniatáu i roi cipolwg ar y byd trwy gyfrwng cwpledi ac englynion.
Meddai Llion, “Fy mwriad wrth gyhoeddi’r gyfrol oedd ceisio ennyn diddordeb mewn cynghanedd a barddoniaeth yn ogystal ag annog mwy o Gymry Cymraeg i wneud defnydd creadigol o’r cyfryngau newydd. Mae’r ymateb i’r gyfrol wedi bod tu hwnt i bob disgwyl ac mae’r gydnabyddiaeth gan banel beirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn goron ar y cyfan.”
Cyhoeddir enillwyr categori Llyfr y Flwyddyn 2013 - barddoniaeth, ffeithiol a ffuglen - cyn enwi Llyfr y Flwyddyn – teitl Cymraeg a Saesneg - mewn seremoni yng Nghaerdydd ar 18 Gorffennaf.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru ac mae manylion pellach amdani i’w cael ar wefan y gystadleuaeth
Gallwch ddarllen rhagor am Trydar mewn Trawiadau ar wefan Gwales Cyngor Llyfrau Cymru neu ar wefan Llion Jones
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2013