Cydnabyddiaeth ryngwladol i Food Dudes
Bydd yr academyddion o Brifysgol Bangor sydd y tu ôl i raglen dra llwyddiannus y Food Dudes, sy’n annog plant ifainc a’u teuluoedd i ddewis bwydydd iach, i dderbyn gwobr am y modd y maent wedi addasu eu gwybodaeth wyddonol at ddiben ymarferol iawn.
Bydd yr Athro Fergus Lowe a Dr Pauline Horne o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn cael y Wobr Trosi Gwyddonol (Trosglwyddo Technoleg) gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Dadansoddiad Ymddygiadol yn ei chynhadledd flynyddol sydd i’w chynnal yn Seattle, UDA, ym Mai 2012.
Mae’r Wobr yn cydnabod datblygiad a lledaeniad rhaglen y Food Dudes. Dyfernir hi i unigolyn neu unigolion yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat sy’n ymdrin â phroblemau o bwys cymdeithasol gan ddefnyddio dulliau sydd â chyswllt uniongyrchol â dadansoddiad ymddygiadol neu sy’n ymgorffori’n effeithiol egwyddorion ymddygiadol.
“Ar adeg y mae gordewdra ar gynnydd ym mhedwar ban byd, a phlant yn amddifad o faetholion pwysig a geir mewn ffrwythau a llysiau, mae SABA yn falch o gydnabod llwyddiannau rhaglen y Food Dudes o ran gwella diet plant yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Sisili ac UDA. Mae’r ffordd rydych yn integreiddio egwyddorion ymddygiadol trwy gydrannau niferus ymyriadau Food Dudes yn siampl i eraill sy’n awyddus i gael effaith ar ymddygiad sy’n bwysig i gymdeithas,” meddai Maria Malott, Ysgrifennydd y Gymdeithas er Hyrwyddo Dadansoddiad Ymddygiadol.
“Mae project y Food Dudes yn cael cydnabyddiaeth fyd-eang am y modd llwyddiannus iawn y gall wella arferion bwyta. Yn ogystal ag ennill Gwobr gan Sefydliad Iechyd y Byd am ddefnydd yn Iwerddon, ac ennill Gwobr Medal Aur Prif Swyddog Meddygol y DU, mae project y Food Dudes wedi’i fabwysiadu gan y Comisiwn Ewropeaidd i ddangos sut y gall llywodraethau yn Ewrop ymdrin â gordewdra. Mae hwn yn broject gan Brifysgol Bangor a all gael effaith wirioneddol ar iechyd pobl yn y cymdeithasau hynny ym mhedwar ban byd sydd bellach yn wynebu sialens fawr o ran gordewdra. Rwy’n falch iawn fod yr academyddion dan sylw yn cael cydnabyddiaeth gan eu cydweithwyr proffesiynol yng nghyswllt eu cyfraniadau,” meddai’r athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor.
Mae cynllun y Food Dudes, sydd wedi’i anelu at ysgolion cynradd, yn defnyddio pedwar cymeriad cartŵn sy’n bwyta’n iach – y Food Dudes – ynghyd ag amrediad o ddulliau eraill o newid ymddygiad, i helpu plant i fagu hoffter o ffrwythau a llysiau, a’u hannog i’w bwyta gartref ac i ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn bwyta’n iach.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2011