Cydweithio ar ddeunyddiau i sgriniau hyblyg electronig yn cael dyfarniad 'Eithriadol' gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg
Cydweithio llwyddiannus yn ganolog i ddilysu technoleg gyda gweithgynhyrchwyr sgriniau hyblyg byd-eang
Mae'n bleser gan SmartKem Ltd., datblygwr arweiniol ym maes deunyddiau lled-ddargludol organig, perfformiad uchel i sgriniau hyblyg ac electronig, A Phrifysgol Bangor gyhoeddi y dyfarnwyd gradd 'Eithriadol' gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg i Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ddiweddar rhyngddynt.
Gan weithio gyda'r Ysgol Peirianneg Electronig, llwyddodd academyddion o Grŵp Electroneg Organig i nodweddu a dilysu uwch ddeunyddiau lled-ddargludol SmartKem ar ffurf transistor fel rhan o'u rhaglen datblygu deunyddiau. Mae'r brifysgol yn arwain ym maes ymchwil i electroneg blastig, a gweithiodd Dr Colin Watson, cysylltai KTP o'r Grŵp Electroneg Organig, gyda SmartKem i ddatblygu methodolegau profion cyflym i ddilysu nodweddion electronig cynhenid deunyddiau lled-ddargludol a phrosesu protocolau i'w hymgorffori yn y drefn o brofi transistorau.
Bu'r gefnogaeth hon wrth ddilysu technoleg SmartKem yn ffactor bwysig yng nghylch datblygiad cyflym y cwmni, gan gyfrannu at allu SmartKem i sicrhau safle cryf yn y gadwyn cyflenwi sgriniau yn Asia. Bu hefyd yn rhan ganolog o ddilysu gallu uwch ddeunyddiau SmartKem i'r farchnad fel y gellid creu partneriaethau masnachol gyda gweithgynhyrchwyr byd-eang, yn cynnwys cytundeb datblygu ar y cyd gyda phrif wneuthurwr sgriniau yn Asia i fasnacheiddio uwch sgriniau hyblyg at y dyfodol.
Mae KTP yn rhaglen sydd ar gael drwy'r DU i helpu busnesau i wella eu gallu i gystadlu a chynhyrchu drwy drosglwyddo’r wybodaeth am dechnoleg a sgiliau sydd ar gael o fewn sylfaen wybodaeth y DU. Trwy gyfrwng y cydweithredu cafodd SmartKem fynediad at arbenigedd Prifysgol Bangor ym maes ffiseg transistorau a'r gallu i’w profi er mwyn cael dealltwriaeth lawnach am berfformiad electronig ei led-ddargludyddion organig yn ystod y cylch datblygu. Mae hyn wedi galluogi SmartKem i leoli ei hun yn gyflym yn y sector sgriniau gyda'r unig led-ddargludydd perfformiad uchel sy'n cynnig hyblygrwydd gwirioneddol OEM ar ffurf derfynol transistorau. Yn ddiweddar, cafodd SmartKem gydnabyddiaeth gan y diwydiant am gyflawni hyn trwy ennill y Printed Electronics Asia Award am y “Best Material Advancement" dros y 24 mis diwethaf.
Meddai Steve Kelly, Prif Weithredwr SmartKem: "Nid oes llawer o lefydd yn y DU a fyddai wedi gallu darparu'r lefel o gefnogaeth dechnegol arbenigol a'r offer o ansawdd uchel rydym wedi gallu eu defnyddio ym Mhrifysgol Bangor. Mae arbenigedd o'r radd flaenaf a phrofiad eang Grŵp Ymchwil Electroneg Organig yr Athro Taylor wedi bod yn werthfawr iawn i'r cwmni o ran deall perfformiad ein deunyddiau."
Gweithiodd Dr Colin Watson o'r Ysgol Peirianneg Electronig yn agos gyda'r cwmni i brosesu, profi a dilysu eu cynnych ar ffurf TFT ac i ddiffinio protocolau ar gyfer ymgorffori eu deunyddiau mewn dyfeisiau transistor, sy'n rhan hanfodol o'r broses trosglwyddo technoleg. Mae canlyniadau'r bartneriaeth hon wedi galluogi'r cwmni i ddatblygu cylch datblygu cyflym iawn a dilysu eu deunyddiau fel llwyfan technoleg i gwmnïau gweithgynhyrchu electronig blaenllaw'r byd.
Dywedodd Dr. Watson, Cysylltai KTP o'r Grŵp Electroneg Organig: "Rydym yn hynod falch o gael ein cydnabod am ein harbenigedd ym maes transistorau ac i gael y cyfle i gydweithio gyda SmartKem i gynyddu galluoedd eu lled-ddargludyddion organig p-FLEX™. Edrychwn ymlaen at barhau gyda'n gwaith yn y maes hwn a gweld sut y mae canlyniadau'r cydweithio hyn yn effeithio ar y diwydiant sgriniau hyblyg."
Meddai Dr Mike Cowin, pennaeth Datblygu Cynnyrch SmartKem, "Bu cyfraniad Colin at gylch datblygu'r cwmni yn un sylweddol. Mae ymdrechion diflino ac arbenigedd arweiniol Colin mewn theori TFT a’i defnyddio wedi ychwanegu gwerth gwirioneddol i'r cwmni. Mae ein dyled i Colin, yr Athro Taylor, Prifysgol Bangor a'r rhaglen KTP yn fawr iawn am eu cyfraniad at ein cynnydd mewn dilysu dyfeisiau a chefnogi'r cynnyrch."
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2014