Cyfalafiaeth ar ymyl y dibyn? - Arglwydd Davies o Abersoch yn trafod
Bydd yr Arglwydd Davies o Abersoch yn cynnig digon i gnoi cil drosto mewn darlith gyhoeddus ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor am 6.30 o’r gloch, nos Iau 11 Hydref. Mae’r ddarlith, a drefnir gan Brifysgol Bangor ar y cyd â Changen Menai, Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig, am ddim ac yn agored i bawb.
Mae’r Arglwydd Davies, sy’n gadeirydd y Cyngor, sef corff llywodraethol Prifysgol Bangor, yn fwy na chymwys i drafod cyfalafiaeth, a byd masnach, bancio a chyllid. Mae’n fancwr rhyngwladol enwog, a bu’n brif weithredwr Standard Chartered Bank Plc rhwng 2001 a 2006 ac yn gadeirydd y banc rhwng 2006 a 2009. Bu hefyd yn Weinidog dros Fasnach, Buddsoddi a Busnesau Bychain, rhwng Ionawr 2009 a Mai 2010.
Yn ei ddarlith, bydd yr Arglwydd Davies yn canolbwyntio ar y gwersi sydd rhaid eu dysgu yn sgil yr argyfwng economaidd. Meddai: “Deuthum yn agos at ymyl y dibyn ac oherwydd hynny, mae’n rhaid inni ailystyried ein gwerthoedd.”
Ar hyn o bryd, mae’r Arglwydd Davies yn is-gadeirydd ac yn bartner gyda’r cwmni Corsair Capital, sef cwmni ecwiti preifat sydd yn arbenigo mewn gwasanaethau ariannol. Mae hefyd yn gadeirydd anweithredol cwmni rheoli asedau PineBridge. Yn 2011, bu’r Arglwydd Davies yn gadeirydd arolwg cyhoeddus i’r Llywodraeth ar rôl merched ar fyrddau cwmnïau yn y DU. Mae hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol i nifer o gyrff, yn cynnwys Tesco Plc (2003-08) a Chlwb Pêl-droed Tottenham Hotspur (2004-09). Mae’r Arglwydd Davies hefyd wedi bod yn gadeirydd y ‘Generations Appeal’ i’r elusen Breakthrough Breast Cancer, ac mae’n un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Kyffin Williams.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2012