Cyfansoddiad o bwys yn ymddangos ar CD
Mae darn cerddorfaol o bwys a gyfansoddwyd gan Guto Pryderi Puw wedi'i gynnwys ar CD diweddaraf y fiolinydd enwog Madeleine Mitchell.
Caiff Guto ei gydnabod yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru ac mae'n Bennaeth Cyfansoddi ac yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Cafodd ei gomisiynu gan Madeleine Mitchell i ysgrifennu concerto i'w berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gerddoriaeth Bangor yn 2014. Ysbrydolwyd y gwaith, Violin Concerto - Soft Stillness, gan ddyfyniadau o ddrama Shakespeare The Merchant of Venice i nodi 450 mlynedd ers geni'r dramodydd.
Mae'r concerto yn un o bum darn a gomisiynwyd yn arbennig gan Mitchell i ymddangos ar y CD newydd, Violin Muse a ryddheir ar label Divine Art. Recordiwyd y concerto yn fyw mewn perfformiad gan Madeleine Mitchell gyda Cherddorfa Genedlaethol BBC Cymru yng Ngŵyl Bro Morgannwg ym mis Mai 2014. Mae'r CD hefyd yn cynnwys gweithiau gan y cyfansoddwyr adnabyddus Michael Nyman, Michael Berkley, Judith Weir, Sadie Harrison, David Matthews a Geoffrey Poole.
Dywedodd Guto Pryderi Puw:
"Pan gysylltodd Madeleine â mi o gwmpas 2009, penderfynwyd y buaswn yn ysgrifennu concerto a'r unig gais ganddi oedd am "ddarn telynegol heb unrhyw bumawdau!" Bum mlynedd yn ddiweddarach dyna'n union beth gafodd hi! Er bod gan y concerto adrannau rhythmig cymhleth iawn yn y symudiad cyntaf, sy'n cael eu chwarae'n feistrolgar ar y CD, mae yna nifer o felodïau mynegiannol sy'n esgyn uwch ben y cyfeiliant cerddorfaol. Yn ogystal â hynny, mae'r unawd telynegol yn y symudiad olaf mwy llonydd yn ganolbwynt sylw, ond y tro hwn i gyfeiliant cefnogol harmonïau mwy sefydlog. Mae dehongliad mynegiannol Madeleine o'r darn ar y CD yn drawiadol. Mae’n bleser gennyf hefyd bod fy Concerto wedi cael ei gynnwys ar y cyd â gweithiau gan gyfansoddwyr mor adnabyddus, sy'n dangos ymroddiad Madeleine Mitchell dros y blynyddoedd i gomisiynu a pherfformio gweithiau newydd."
Mae'r cyfansoddwr o fri Paul Mealor wedi datgan bod y Concerto "yn waith nodedig o sylwedd a grym emosiynol sy'n cyflwyno her virtuoso i unawdwyr mewn nifer o adrannau, a phrofiad gwrando pleserus, yn arbennig yn yr ail symudiad mwy telynegol."
Mae Guto Puw yn un o gyfansoddwyr mwyaf uchel ei barch ei genhedlaeth yng Nghymru ac yn ffigwr allweddol mewn cerddoriaeth Gymreig gyfoes; mae wedi ennill nifer o wobrau, yn cynnwys 'Gwobr y Gwrandawyr' yng Ngwobrau Cyfansoddwyr Prydain yn 2007 a Gwobr Syr Geraint Evans gan Urdd Cerddoriaeth Cymru yn 2013. Roedd hefyd yn Gyfansoddwr Preswyl cyntaf BBC NOW rhwng 2006-10 ac mae wedi derbyn nifer o gomisiynau blaenllaw, yn cynnwys ‘…onyt agoraf y drws…’ gan Gyngherddau Prom y BBC ar gyfer tymor 2007. Cafodd gomisiwn diweddar gan Theatr Gerdd Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru i ail-ddehongli drama Gwenlyn Parry, Y Tŵr fel opera siambr mewn tair act, gyda Gwyneth Glyn yn cyfansoddi'r libreto. Hon yw'r opera gyntaf yn Gymraeg i gael ei chomisiynu ar gyfer cerddorion proffesiynol, a bu ar daith ddiweddar o gwmpas Cymru a'r Deyrnas Unedig gan ennill canmoliaeth feirniadol. Mae wrthi'n gweithio ar hyn o bryd ar gomisiwn mawr i BBC NOW a fydd yn agor yn Neuadd Hoddinott ar 28 Mawrth 2018.
Mae’r CD Violin Muse gan Madeleine Mitchell yn cael ei lansio mewn digwyddiad yn Llundain sydd ar agor i’r cyhoedd ar 25 Hydref, (am ddim ond tocynnau ar gael gan http://www.rcm.ac.uk/events/listings/details/?id=1099670).
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2017