Cyfarwyddwr Newydd i Ganolfan Gelfyddydau Pontio Bangor
Mae Osian Gwynn wedi ei gyhoeddi'n Gyfarwyddwr newydd ar Celfyddydau Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor, agorwyd yn 2015.
Yn frodor o Lanelli, cafodd Osian Gwynn ei addysgu yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant ac Ysgol Gyfun y Strade, cyn astudio gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n gweithio i gwmni Cyfathrebu Cambrensis yng Nghaerdydd, cyn astudio gradd Feistr mewn Perfformio Lleisiol yng ngholeg y Guildhall School of Music and Drama, yn Llundain. Gweithiodd fel canwr opera yn unigol ac fel rhan o’r corws i gwmnïau megis Opera Holland Park a Grange Park Opera a theithio ledled Prydain ac Ewrop fel rhan o gynyrchiadau teithiol.
Am y pum mlynedd diwethaf, bu’n gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru gan weithio fel Swyddog Arweiniol i sefydliadau megis Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Cwmni Theatr Arad Goch, Theatr y Torch, Music Theatre Wales a Chanolfan Celfyddydau Pontardawe. Mae Osian yn angerddol am y celfyddydau ac yn benodol y celfyddydau perfformio ac yn mwynhau profi cynyrchiadau byw a ffilmiau o bob math.
Meddai, "Mae’n gymaint o fraint cael fy mhenodi i arwain sefydliad fel Pontio a chael y cyfle i weithio mewn adeilad mor arbennig.
"Mae'n anodd meddwl am ardal well i weithio ynddi o ran cyfoeth ei diwylliant a safon ei hartistiaid, ac rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at y cyfle i wrando ar bobl Bangor a’r cyffiniau a chydweithio ‘da'r Brifysgol a myfyrwyr wrth ‘sgwennu’r bennod nesaf yn hanes Pontio.
"Rwy’n awyddus i adeiladu ar y gwaith eithriadol sydd wedi ei gyflawni gan Elen ap Robert a thîm Pontio, yn ogystal â chreu rhaglen newydd o ddigwyddiadau amrywiol fydd yn denu cynulleidfaeoedd o bell ac agos i fwynhau diwylliant a’r celfyddydau yn ninas Bangor.
"Mewn cyfnod tymhestlog o ran gwleidyddiaeth, rwy'n hollol argyhoeddedig fod gan y celfyddydau rôl blaenllaw o ran darparu cyfleon i uno, i fynegi ac wrth gwrs, i fwynhau!”
Bydd Osian Gwynn yn cychwyn yn ei swydd ddechrau Hydref.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2019