Cyfiawnder Gweinyddol yng Nghymru a Safbwyntiau Cymharol
O gyfraith cynllunio i ofal cymdeithasol a thu hwnt mae’r gyfraith yn effeithio ar ein bywydau ni pob dydd. Gyda newid pellach i ddatganoli ac i’r gyfraith yn y meysydd hyn yng Nghymru mae’n bleser gan Ysgol y Gyfraith Bangor gyhoeddi cynhadledd ar ‘Gyfiawnder Gweinyddol yng Nghymru a Safbwyntiau Cymharol’ ym Mhrifysgol Bangor ar 10fed Medi 2015.
Cynhelir y gynhadledd mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a Sefydliad Cyfiawnder Gweinyddol y DU. Bydd yn dod ag arbenigwyr rhyngwladol ar gyfiawnder gweinyddol ynghyd o Awstralia, Ewrop, y Deyrnas Unedig, a Chymru. Byddent yn trafod datblygiadau i gyfiawnder gweinyddol gyda golwg benodol ar ddatblygiadau yng Nghymru megis swyddogaethau Comisiynwyr ac Ombwdsmyn, Hawliau Plant, Deddf Tai (Cymru) 2014, a llysoedd a thribiwnlysoedd.
Bydd cyfraniadau cymharol yn ystyried sut y gall Cymru ddysgu gan ddatblygiadau mewn rhannau eraill o’r byd megis cyflwyniadau gan Robin Creyke (Australian National University) a’r Athro Marc Hertogh o Brifysgol Groningen. Bydd siaradwyr o rannau eraill y DU yn trafod gwahaniaethau o fewn y DU ers datganoli gyda chyfraniadau gan Brian Thompson (Prifysgol Lerpwl), yr Athro Maurice Sunkin (Prifysgol Essex), Dr Gráinne McKeever (Prifysgol Ulster) a Chris Gill (Prifysgol Queen Margaret, Caeredin).
Dywedodd Dr Sarah Nason o Brifysgol Bangor: “Mae hon yn gynhadledd gyffrous ac amserol iawn wrth ystyried cyflymdra datganoli yn y Deyrnas Unedig. Mae Cyfiawnder Gweinyddol (y ffyrdd y mae dinasyddion yn rhyngweithio â’r wladwriaeth) yn faes sydd heb gael sylw digonol yng Nghymru. Bydd y gynhadledd hon yn dwyn ynghyd arbenigwyr o safon ryngwladol sydd â gwir botensial i ddatblygu cynigion arloesol a all wella bywyd beunyddiol pobl sy’n byw yng Nghymru, yn arbennig wrth ryngweithio â chyrff cyhoeddus.”
Mae manylion pellach a gwybodaeth ynglŷn ag archebu lle ar gael ar-lein ar adminjustice2015.bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2015