Cyfle i ddylunwyr ifanc arddangos eu gwaith
Mewn menter newydd, mae Prifysgol Bangor wedi rhoi cyfle i ysgolion lleol ddangos gwaith gan eu dylunwyr gorau mewn Arddangosfa Dylunio a Thechnoleg arbennig.
Mae naw ysgol ar draws gogledd Cymru wedi manteisio ar y cyfle i ddangos enghreifftiau o waith gan eu dylunwyr ifanc sy’n astudio Dylunio a Thechnoleg, yn cynnwys Dylunio Cynnyrch ynghyd â Thecstilau yng Nghyfnod Allweddol 3, TGAU, AS a lefel A. Dangosir y gwaith mewn arddangosfa dau ddiwrnod yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ym Mhrifysgol Bangor.
Eglurodd Peredur Williams, Darlithydd Dylunio a Thechnoleg yn yr Ysgol Addysg, sut daeth yr arddangosfa i fod:
“Deilliodd yr Arddangosfa o’n cyfarfodydd rheolaidd gydag athrawon Dylunio a Thechnoleg yn yr ardal. Roeddent yn awyddus i roi llwyfan i’r gwaith dylunio a thechnoleg arbennig sy’n cael ei gynhyrchu gan eu disgyblion. Mae popeth sydd o’n cwmpas neu a ddefnyddiwn yn ein bywydau bob dydd wedi eu dylunio gan rywun yn rhywle. Mae Dylunio a Thechnoleg yn bwnc allweddol yng nghwricwlwm pob ysgol i sicrhau bod disgyblion yn datblygu mewn ffordd greadigol ac ymarferol. Rydym ni, yn yr Ysgol Addysg a Phrifysgol Bangor, yn falch o allu cynorthwyo i hyrwyddo’r pwnc ac arddangos y gwaith da sy’n cael ei wneud yn ein hysgolion lleol.”
Un disgybl a oedd yn cymryd rhan yn y sioe oedd Carys Matthews, 17 oed o Ysgol y Creuddyn. Mae Carys yn astudio Lefel A a bydd yn mynd i astudio graffeg yng Nghaerdydd yn ddiweddarach eleni.
“Mae’n wych gallu gweld fy ngwaith fel rhan o’r sioe, mae’n newid y ffordd rydych yn gweld eich gwaith pan gaiff ei arddangos mewn lle fel hyn.”
Cynhelir yr arddangosfa yn y Bocs Gwyn yn Pontio rhwng 2.30-7.00 heddiw, dydd Gwener 16 Mehefin.
Dyma’r ysgolion sy’n cymryd rhan:
Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch;
Ysgol Uwchradd Caergybi;
Ysgol Botwnnog;
Ysgol Dyffryn Nantlle;
Ysgol Uwchradd Eirias;
Ysgol David Hughes;
Ysgol y Creuddyn;
Ysgol Dyffryn Nantlle
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2017