Cyfle i ddysgu am hanes Cymdeithas myfyrwyr dylanwadol
Cyn aelod yn cyflwyno hanes gogoneddus Cymdeithas y Ddrama Gymraeg
Yn dilyn ail sefydlu’r Gymdeithas Ddrama yn 2012 a llwyddiant ei blwyddyn lawn gyntaf o berfformiadau a gweithdai, mae’r Gymdeithas wedi gwahodd un o’i chyn aelodau i roi sgwrs ar hanes difyr a dylanwadol y Gymdeithas.
Ar 22 Hydref 2014, bydd Dafydd Glyn Jones, sydd hefyd yn gyn-Ddarllenydd yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Cymru, Bangor, ac yn awdurdod cydnabyddedig ar y ddrama Gymraeg yn ymuno ag aelodau’r Gymdeithas i daflu goleuni ar rai o anturiaethau’r Gymdeithas er ei sefydlu’n swyddogol ym 1923 o dan lywyddiaeth R. Williams Parry.
Bydd rhai o’r aelodau presennol hefyd yn cymryd rhan ar y noson yn perfformio ambell olygfa o rai o’r dramâu y bu i’r Gymdeithas eu llwyfannu yn y gorffennol.
“Rydan ni’n edrych ymlaen yn fawr at gael clywed ychydig o straeon a ffeithiau am orffennol y Gymdeithas gan ei bod wedi bod mor ddylanwadol a llwyddiannus yn ei dydd. Rydan ni’n ffodus iawn hefyd o gael siaradwr gwadd sydd, nid yn unig yn gyn aelod, ond yn ysgolhaig adnabyddus ym maes y ddrama,” meddai Llŷr Titus, aelod o Bwyllgor cyfredol y Gymdeithas.
Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd JP, Prifysgol Bangor am 7:30 o’r gloch, nos Fercher, 22 Hydref 2014. Bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn. Mae tocynnau ar gael wrth y drws am £3. Estynnir croeso cynnes i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2014