Cyfle i ddysgu mwy am ymchwil newydd am yr awdures Kate Roberts
Bydd cyfle i ymwelwyr â stondin Prifysgol Bangor ddysgu mwy am waith a hanes bywyd "brenhines llenyddiaeth Cymru" yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Ar Ddydd Gwener, Awst 10fed, bydd Canolfan Treftadaeth Cae’r Gors, sef cartref genedigol Kate Roberts yn Rhosgadfan, yn cyflwyno dwy ddarlith, mewn cydweithrediad ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.
Bydd y ddarlith gyntaf, Cymraeg y Ciari-dyms: chwilio am y gwirionedd ynghylch sefyllfa’r iaith yn hen aradal Kate, yn cael ei chyflwyno gan Gwenllian Williams ac yn delio gyda’i gwaith ymchwil am ddwyieithrwydd ac agweddau tuag at yr iaith Gymraeg yn ardal Dyffryn Nantlle. Bydd yn edrych ar y safbwyntiau a leisiwyd gan Kate Roberts ar y mater er mwyn ceisio dyfalu beth fyddai ei barn hi am y sefyllfa fodern.
Dywedodd Gwenllian, myfyrwriag Ol-radd yn Ysgol y Gymraeg: “Er nad ydi fy ngwaith ymchwil i yn ymwneud yn uniongyrchol â Kate Roberts, mae’n ymwneud a’r ardal a’r gymdeithas a bobl a olygai cymaint iddi. Fel un o Ymddiriedolwyr Cae’r Gors, mae Kate yng nghefn fy meddwl drwy’r adeg, felly mae hi wedi bod yn hwyl rhoi lle mwy blaenllaw i’w llais wrth baratoi ar gyfer y cyflwyniad hwn a gosod fy ngwaith mewn cyd-destun mymryn gwahanol. Rydym fel Canolfan yn falch iawn bod gennym gymaint i’w ddysgu o hyd am fywyd a gwaith Kate Roberts. Golyga hynny nad yw ein gwaith yn y Ganolfan wedi dod i ben o bell ffordd!
Bydd Diane Jones, myfyrwraig PhD yn Ysgol y Gymraeg, hefyd yn cyflwyno darlith Kate Roberts a’r Ddrama - codi’r Llen. Mae Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors wedi bod yn gweithio ar brosiect ar y cyd â Phrifysgol Bangor drwy’r cynllun KESS, gyda Diane dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod y tŷ a hanes un o awduron mwyaf blaenllaw Cymraeg yr ugeinfed ganrif yn dod yn fyw i ymwelwyr a phlant ysgol.
Dywedodd Diane, sy’n enedigol o Ddyffryn Nantlle: “Rwy’n falch iawn o gael cymryd rhan yn yr Eisteddfod ar ran Cae’r Gors, ac o gael rhannu ychydig o ffrwyth fy ymchwil ar gysylltiad Kate â’r ddrama. O gofio am gysylltiad Kate â Phrifysgol Bangor (roedd yn gyn fyfyriwr) a’i bod yn ymwelydd cyson â’r Eisteddfod Genedlaethol mae fel petai rhyw draddodiad cael ei gynnal.”
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012