Cyfle i ennill penwythnos yng Nghaerdydd drwy gymryd rhan yn yr Her Ddiwylliant
Yn ystod yr Her Ddiwylliant, a gynhelir ym mis Mawrth 2012 ac sydd yn agored i holl fyfyriwr y Brifysgol, mi fydd timau yn brwydro i ennill penwythnos yng Nghaerdydd a thocynnau siopa.
Bydd y digwyddiad, a drefnwyd gan y Gymdeithas Myfyrwyr ac Ysgolheigion Tseiniaidd (CSSA) a Swyddfa Lles Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o'r DU a thu hwnt i gymdeithasu gyda myfyrwyr rhyngwladol y Brifysgol. Bydd un sialens yn gofyn i’r timau roi cyflwyniad a chymryd rhan mewn cwis i weld faint meant wedi ei ddysgu gan y cystadleuwyr eraill.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 9fed Rhagfyr ac mae timau eisoes wedi dechrau gweithio ar y cyflwyniadau ar gyfer y prif ddigwyddiad, a gynhelir yng Nghanolfan Gwasanaethau Myfyrwyr.
Meddai Alan Edwards, Pennaeth Swyddfa Lles Myfyrwyr Rhyngwladol,: "Nod y digwyddiad yw hyrwyddo cyfathrebu ac integreiddio rhwng y myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr y DU, a rhoi cyfle iddynt ddysgu am ddiwylliannau eraill yn y broses a darganfod mwy am yr holl fyfyrwyr rhyngwladol y Brifysgol.
"Mae’r Swyddfa Lles Myfyrwyr Rhyngwladol yn awyddus i sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad bythgofiadwy tra yma ym Mangor, ac elfen bwysig o hyn i fyfyrwyr yw dysgu am diwylliannu gwahanol, a hynny mewn lleoliad anffurfiol."
Dylai unrhyw fyfyriwr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Manuela Vittori trwy ebsotio m.vittori @ bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2011