Cyfle i ferched ifanc 'ddarganfod gwyddoniaeth'
Tracio DNA rhinoseros, creu dillad clwb nos electronig neu archwilio glannau creigiog- nid dyna’r ffordd y bydd genethod 14 mlwydd oed yn treulio’u boreau Sadwrn gan amlaf.
Ond mae 25 o bobl ifanc wedi bachu ar y cyfle i dreulio’u Sadyrnau’n dysgu mwy am wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg mewn amgylchedd llawn gwybodaeth a hwyl drwy ymuno â Chlwb Sadwrn Darganfod Gwyddoniaeth i Ferched. Mae hwn yn broject ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Gyrfa Cymru.
Bydd y disgyblion Blwyddyn 9 o ddeg ysgol yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn yn ymweld â'r Brifysgol ar gyfer gweithdai amrywiol dros yr wythnosau nesaf, gyda'r amcan o annog merched i barhau i astudio pynciau STEM yn y dyfodol.
Mae'r gweithdai a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor rhwng 25 Chwefror a 17 Mawrth yn cynnwys: Goleuwch eich bywyd gyda ffasiwn electronig (Ysgol Peirianneg Electronig); Archwilio planhigion ar y tu mewn a’r tu allan (Ysgol Gwyddorau Biolegol); Cregyn: gemwaith hardd neu anifeiliaid anhygoel? (Ysgol Gwyddorau Eigion); Trosedd Bywyd Gwyllt - Pwy wnaeth? (Ysgol Gwyddorau Biolegol); a Digon i’w weld ar y glannau creigiog! (Ysgol Gwyddorau Eigion).
Daw’r rhaglen i ben ar 25 Mawrth gydag ymweliad â Mynydd Gwefru a Gorsaf Bŵer Dinorwig yn Llanberis. Yn ogystal â thaith o amgylch y safle a drefnir gan berchnogion y safle, First Hydro, bydd y merched yn cwrdd â pheirianwyr sy’n ferched ac yn cael cyfle i glywed am eu llwybrau gyrfaol a’u profiadau.
"Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn o gael cynnal y gweithdai hyn am yr ail flwyddyn yn olynol, ac i allu ymestyn y gweithgaredd i 25 o ferched eleni," meddai Carys Roberts, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.
"Bydd y merched yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau a phrofiadau gyda’r amcan o ddangos iddynt y gwahanol gyrsiau a gyrfaoedd sydd ar gael ym maes gwyddoniaeth. Erbyn diwedd y pum wythnos gobeithir y bydd y merched yn frwdfrydig ac wedi’u hysgogi gan eu profiadau, ac yn awyddus i barhau i astudio gwyddoniaeth yn y dyfodol ".
Meddai Ffiona Williams, Uwch Reolwr Gyrfa Cymru yn y gogledd orllewin, "Rydym yn gwybod ein bod angen rhagor o bobl ifanc i barhau i astudio pynciau Gwyddoniaeth ar ôl TGAU a Safon Uwch, a bod unigolion sy'n gwneud hynny yn gwella eu rhagolygon am swyddi ar gyfer y dyfodol. Yn gyffredinol nid oes digon o ferched mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth, ac mae’r rhaglen Darganfod Gwyddoniaeth yn ymestyn eu barn am yrfa y tu hwnt i’r galwedigaethau traddodiadol ym maes gwyddoniaeth."
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2012